LLERCIAN.—Ystelcio, aros ar ol, oedi. Llerc, Cymraeg pur, medd awdurdodau hen a diweddar, gydag ian yn ei ystyr arferol; ac yma y cafodd y Sais ei to lurk yntau yn air, beth bynag am yr arferiad.
MELGAWOD.—Math o sylwedd a fwria trychfilod ar blanigion o gylch mis Mehefin, fe ym— ddengys. Nid y Felgawod, sef honeydew y Sais, sydd yn perarogli, fel y tybir yn gyffredin. Gwenwyno y blodau rhag dwyn ffrwyth y mae y Felgawod. Ffrwythlonrwydd cynnyrch sydd yn perarogli, drwy ymgymmysgu a'r awel mewn gwasgariad.
MYMRYN.—"Ni ŵyr neb beth yw mymryn. Ni welodd neb un erioed. Mae'n rhy fychan i'w weled na'i gyffwrdd gan offeryn mwyaf cywrain a chyrhaeddbell y gwyddonwr. Olrheiniwch ef, a'r oll a gewch yw'r hyn a elwir gan Faraday yn point of force. Beth yw hyny? Ni fedrai Faraday ei hunan ateb." Ond cofier, ni theimla'r werin betrusdod i gyfaddasu'r gair fel ag i olygu hyder ei fod yn rhyw gymmaint o sylwedd defnyddiol, megis "mymryn bach," mymryn bach," "y mymryn lleiaf.". "Nid oes fymryn i'w gael ganddo—ddim cymmaint ag a roddech yn nghanwyll eich llygad," &c.
NOSON A NoOSWAITH.—Dau air cyfystyr, yn golygu yr un peth, yw noson a noswaith yn ein dyddiau ni. Ond ymddengys fod pobl yr hen amser gynt yn gwahaniaethu rhyngddynt fod gwaith neu lafur ganddynt hwy yn perthyn i noswaith, a llonyddwch i noson, nos heb waith yn perthyn i'r nos; a noswaith, nos â gwaith yn nglŷn â'r nos hono.
PEDROLFEN.—Gwagen bedair olwyn.
RHETYDDIA—Wedi i gwpl o bobl ieuaingc gyttuno â'u gilydd i briodi, anfonid cymmydog cyfrifol neu ddau ar ran y mab ieuangc i ofyn y ferch gan ei rhieni, ac i wneuthur cyttundeb yn nghylch