Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/314

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

TORI'R WAWR.—Mae'n ymddangos fod y gair gwawr yn dwyn yn ei fynwes gryn nifer o eir—liwiau prydferth, ac fod llinyn gwahaniaeth amlwg wedi ei dynu rhyngddynt oll, megis gwawr oleu—gwawr lwyd—gwineulwyd—gwawr goch, gwawr lâs, llwyd-oleu, ac hyd y nod gwawr dywyll, &c. Wrth gwrs, ystyr cyntaf y gair ydyw toriad y dydd. Y lliw yn lled droi at liw arall. Mae y dydd yn taflu ei lewyrch yn mhell o'i flaen. Nid yw yn ddidyst ganol nos, oblegid efe dywyna yn llygaid bychain y ser.

TRAC.—Yn ol y dyb gyffredin, ffurf boblogaidd yw trac o trace a track y Sais; neu tractum y Rhufeinwr, trac yr hwn sydd yn hawdd ei weled yma a thraw ar wyneb tir ac iaith Cymru. Ond rhag bod yn euog o fenthyca ac ymdrechu cael gwreiddiau estronol i eiriau Cymraeg heb eisiau, er yn gyfystyr â trace, track a tractum, &c. Eto, oni ellir tybied mai gair Cymraeg pur yw trac—trac trol—lliosrif traciau, sef rhigolydd olwynion trol; trac ysgyfarnog, sef ei llwybr aneglur, oddiwrth yr hwn yn reddfol, trwy naws ei harogl, y gall yr helgi fanwl ddilyn brisg ei thraed. Dyna ystyr wledig y gair; ond yn hytrach na dadlu achyddiaeth y cyfryw, gadawn ef heb ymhelaethu yn mhellach.

TRADWY.—Y trydydd diwrnod ar ol heddyw. Tri wedi troi yn tra, a dydd yn dwy.

TRANOETH.—Y diwrnod dilynol yw tranoeth. Tran yw yn rhanol, yn hytrach, o flaen, yn ddilynol.

TRENYDD. Y diwrnod ar ol efory. Tri dydd wedi troi yn tre nydd.

WIGSEN. Mioden—teisen fechan.

Y CROEN-GI.—Nid croen ci, ond y creadur ei hun wedi ei dynu i lawr drwy ryw anffawd—cam neu gymhwys, fel na byddo onid braidd groen o hono—yn ddrych o drueni a dibrisdod. Dysgrif