anhawdd," "Arfer yw hanner y gwaith," "Arfer a drech ar bob trechaf," "Arfer a ddwg bob peth dan ei wedd," "Arfer a ddaw hanner y ffordd i gyfarfod a phob ymgais," fel y ceffyl yn dyfod at y gŵr ag oedd yn goddef yn esmwyth ei godi. Diarebion ereill "Nid nerth ond arfer "—"Nid nerth ond celfyddyd"—"Nid celfyddyd ond arfer," fel y dywed y bardd.
"Arfer ac ymgais
A drech ar bob trais."
Ac o hyn y mae'r ddiareb—"Codi'r ebol heddyw, codi'r ebol efory, codi'r ebol bob dydd, onid elo'n llawn ceffyl."
Nid yw y ffaith fod mynych ddefnyddiad yn cael ei wneyd o linell, neu linellau fel
"A wado hyn, aed a hi,
A gwaded i'r haul godi."
yn gwneyd y rhai hyny yn ddiarebion, eithr yn hytrach yn arwyddeiriau, neu mottos mor hapus a tharawiadol, nes bod yn adnabyddus yn ngenau pob dosbarth o bobl.
Heblaw casglu yr oll a ellir o'r rhai sydd ar lafar gwlad, ag y dygwyd doethineb y prif-ffyrdd a'r caeau i mewn iddynt, dyddorol yw ymdrechu olrhain tarddiad cymmaint ellir o honynt, fel ag i geisio dangos yn ymarferol eu hystyr, cyn ei myned yn rhy ddiweddar. Er eu bod yn hen iawn, hwyrach y ceir rhyw eglurhad ar rai mewn un ardal, lle maent yn dywyll mewn ardal arall. Dengys hyn y gallwn ni wrth wrandaw ac ystyried ddeongli llawer o eirweddion preswylwyr yr hen oesoedd—po hynaf, mwyaf y gwerth. Dyma ychydig nifer allan o liaws:
- Abwyd i'r frech wen ydyw'r frech goch.
- Adwyog cae anhwsmon.