Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/317

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Adnabod y bluen.
Pysgotiaeth, yn golygu craffder i ddeall yr hudoliaeth, ac ymogelu, gan nad pa mor gelfydd y temtiwr.
A echwyno gan arall, ef a gyll yr eiddo ei hun.
A fyno fod yn llawen, yfed win.
A fyno fod yn gryf, yfed gwrw.
A fyno fod yn iach, yfed fedd.
Diodydd arferol yr hen bobl oeddynt—dwfr, gwin, cwrw, bir, meddyglyn, osai[1], maidd glâs, &c.
A garo gael, rhodded.
Agoriad calon, cwrw da.
Angen ddadguddia feddwl.
A'i anadl yn ei wddf.
A'i drwyn yn tân—bron rhynu.
A ddygo lwy fo ddwg fwy.
Amlaf ei gwys, amlaf ei ysgub.
Aml gnau ar gyll, aml flyth ar ferched.
Blyth yw blys, chwant, gwŷn, nwyd, &c. Esbonir y ddiareb yna gan un arall i'r un perwyl, "Llawer o gnau, llawer o blant ordderch." Dyna ystyr blyth.
Amser a llanw nid arosant ar neb.
Anfynych y marchoga y sawl fenthyco farch.
Anhawdd diddyfnu yn hen.
Ar fy nghydwybod i.
A ymachubo y blaen o bell, agos y caiff ei les.
Bai bychan a gerdd yn mhell.
Bara llygeidiog a chaws dall.
Da ydynt yn ol yr hen air. Bara yn llawn codiad ac yn fân dyllau trwyddo, a chaws fel arall. Ymddengys fod llygeidiog i'r bara, a'r dall i'r caws, yn golygu yr un peth.
Blaen Gogledd a diwedd De.
A chymmeryd golwg athronyddol a chariadus ar wahanol deithi y gwynt, ystyrid gan yr hen bobl fod tymheredd y gwynt
  1. Cwrw ffrwythau (seidr / perai &c) neu win ffrwythau (mwyar / ysgawen &c)—GPC