Prawfddarllenwyd y dudalen hon
cyfnewidiol amserau diweddarach—fod ysbryd mud yr oesau gynt wedi dal cyhyd i ffynu o'i gwmpas—arferiaeth yw yr achos, fel yr achos o bob llafar gwlad.
- Ceisied pawb ddw'r i'w long.
- Celwydd goleu.
- Celwydd o ben un, gwir o ben pawb.
- Am mai dyfais un yw celwydd, a'r un hwnw a'i hedrydd i gychwyn, tra gwir yn bod i bawb yn gyffelyb o'i adrodd ganddynt fyth.
- Cesail bryn gwaela' talar.
- Codi yn foreu.
- Ymadrodd a ddefnyddir yn fynych, fel o'r un ystyr a bod yn ddiwyd, naill ai mewn drwg neu dda.
- Cuddir dyn dan ei dafod.
- Cyngor gan gall, barn gan ddeall.
- Cyn deneued a glasdwr.
- Hefyd, Fel glasdwr geifr.
- Cyn ddued a'r gadwen.
- Y gadwen yn yr hen Simde fawr, wrth yr hon y crogid y crochanau a phob offer coginiaeth yn yr hen amser; a duach na hono, yn nghanol yr huddygl gwastadol, ni allai dim na neb fod. Yn edrych fel pentan." Ffurf arall ar yr hen ddywediad, yn golygu dull—ymddygiad y taeog mud—sorllyd, diserch—" dweyd na bw na be wrth neb."
- Cyn feddwed ag olwyn, neu "Mor feddw ag olwyn."
- Cynhes fel pathew.
- Creadur bychan o rywogaeth y llygoden, o liw llwydwyn bawlyd. Y mae llawer o lên gwerin mewn cyssylltiad ag ef.
- Cyn wydned ag y dawnsia llydnod hyd-ddo.
- Llymru pur wedi ei wneyd o ruchion digymysg—ei ferwi am o awr a hanner i ddwy