Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

maent yn werthfawr pe na bae ond am y dangosant ddoethineb ein cyndadau, mewn adeg pan yr oedd dynion heb ond ychydig i'w wneyd, ac yn gallu troi eu meddyliau i sylwi a myfyrio ar natur fawr, cyn i brysurdeb y celfyddydau ddyfod i nodweddu pob man, gan dori allan ddarganfyddiadau newyddion, perffeithio a throi i well defnydd hen ddarganfyddiadau, &c.

Nid ein hamcan, ar hyn o bryd, yw ceisio rhoddi hanes eu dechreuad, nac anturio gwneyd adolygiad ar eu cynnwysiad, er y byddai hyny yn dra chydnaws â'n tuedd; ond ein pwnc yw casglu yr hyn a allom o honynt oddiyma ac acw, a gwneyd sylw byr ar ambell un. Mae llawer o ymadroddion diarebol, cymhariaethau, dywediadau arabeddus, rhigymau sathredig, a hen eiriau, yn cyfranogi mwy neu lai o natur diareb; ond nid ydynt un amser, yn cael eu defnyddio yn gyffredin, eithr yn unig ar amser a chyfle priodol; megis awdurdod dros unrhyw beth. Y maent rywsut fel y "myrtwydd yn y pant," heb neb braidd yn eu canfod nac yn eu ceisio, felly aeth llawer o honynt. ar goll, ag y buasai yn well eu cadw, fel y mae gwaetha'r modd; ac y mae llawer o eiriau a ddefnyddir, yn y rhai sydd eto heb ddiflanu, yn annealladwy i ni, ac wedi colli o'n hysgrifeniadau, fel y mae cannoedd o honynt wedi myned yn dywyll; ac o ganlyniad troir ymaith oddiwrthynt yn ddiflas, fel pethau heb fod yn werth sylw.

Llenyddiaeth drwstan oedd llenyddiaeth y werin yn yr oesau gynt, er hyny yr oedd yn hynod ddyddorol, ac at y chwaeth i'r dim. Gan nas gwyddai ond ychydig am Feibl mwy na bod un yn y Llan, coleddai yr ychydig a fedrai ddarllen feddyliau uchel am interliwtiau, a'r rhai na fedrent eu darllen eu hunain a alwent ar ereill i'w darllen iddynt; a phan elid i'r ffair, nid cyflawn yr ystyrid neges neb, os na byddid wedi gofalu yn benodol am gerdd, ar ryw bwnc o drwstaneiddiwch