Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/320

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awr, olygir yma. Dodid weithiau yn y rhuchion ychydig flawd haidd neu wenith; bryd arall, gyfran fechan o flawd ffa—y mwyaf cryfhaol o bob math o flawd. Can wyllted ag ysgyfarnogod yn Mawrth. Cyw tin y nyth.

Dangos y llo, na ddangos y llaeth.
Da y b'och a dibechod.
Dengys y gauaf beth wnaed yr haf.
Deilen ar ei dafod.
Digon i bob dyn ei faich ei hunan.
Dim newydd gymmaint a marw gwrach.
Os difantais y digwyddiad, diwerth ei adrdrodd, olygir.
Dim ond cael a chael.
Diwrnod tywyll, noson oleu.
'Does dim yn dy ben mwy na meipen.
Drwg pawb o'i wybod.
Dwylo blewog.
Dydd Sul y Môr.
Diwrnod mawr a goreu y morwyr a elwid felly—diwrnod fyddai yn dyfod o amgylch yn flynyddol bob haf, ac yn parhau am chwech o Suliau yn olynol, a mawr y rhialtwch fyddai ar y môr—lanau yr adegau hyny, tra'r morwyr yn myned drwy eu chwareuon, a digon o gwrw wedi cael ei ddarllaw ar gyfer yr wyl. Dewisid dau ieuangc i fod yn arglwydd ac arglwyddes y cwrw, ffwl, cerddor, a chymmeriadau eraill.
Dysgu cerdded y filldir.
Mamaeth—air yn llafar gwlad yw hwn am y modd y dysgid i'r plentyn gerdded. Arfer y fam ddyddiau gynt fyddai eistedd yn ei chadair fagu—codi y bychan wedi ei drin i sefyll ar ei gliniau—wyneb yn wyneb a hi-a chan ddodi ei dwylaw dan ei geseiliau i'w gynnal yn lled ogwyddo wysg ei