Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/321

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chefn, hi a'i caffai i symud troed heibio troed, o fodfedd i fodfedd, oddi yno hyd derfyn eithaf ei bron. Dyna hyd milldir hir y bychan; a dyna'r fel y dysgid i'w cherdded. Wedi hir a dygn arfer, yn gwneyd cynnydd o wythnos i wythnos—meistroli y gamp gyntaf yn hanes y dyn; ac ni bu fwy gorfoledd—o bob tu—yn ngorchestion Marathon erioed na pan gyrhaeddid pen y filldir hono. Y cyfarchiad arferol gan ymwelydd cyfeillgar â'r fam am gynnydd ei bychan fyddai "Ydi o wedi dysgu cerdded y filldir bellach?"

Dyw amser ddim yn segur.
Edrych fel delw.
Fel llong ar dir sych.
Fel 'stwc degwm.
Fel y ddeial.
"Y teclyn hwnw osodid yn agos i ddrws pob Eglwys, cyn amser clociau, i nodi yr amser wrth yr haul. Os gofynwch i rywun, "A ydyw eich watch chi yn cadw ei lle?" dywed yntau ar eiliad, "Fel y ddeiol." Mae yr hogyn yna sy gynoch chi hefo'r mul yn un diog iawn, Huw, onid ydi o? Ydi o yn o bynctiwal at ei bryde bwyd? "Ydi, decin i, fel deiol," ebe Huw. Wrth y ddeiol yr oedd Huw yn mesur ac yn pwyso pawb a phobpeth."
Gadael pawb fel y b'ont.
Gair garw gyffry gynen.—Beiblaidd.
Gloewach y dw'r yn y ffynnon nag yn y ffrwd. Goreu bara po garwa gwellt.
Goreu ceirch y breisgaf.
Goreu cig medd meddyg yw mollt.
Goreu gwêr, gwêr carw gwyllt.
Goreu iau, iau bwch.
Goreu llwdn, llwdn dafad.
Goreu o'r gwenith y moelaf.