neu gilydd. Beth bynag oedd i fod yn ol, yr oedd y glaslanc gwledig, yn y clos pen-lin, yn ei theimlo yn fater o ddyledswydd arno, i sicrhau iddo ei hun y trysor hwn o fydryddiaeth Gymreig. Yr amser hwnw, yr oedd llogell hugan, neu wasgod, yn ddigon o le i gynnwys trysorau llenyddol llawer un. Mae yn ddiau mai y cerddi, a'r almanaciau, oeddynt y cyfryngau mwyaf poblogaidd, am lawer o flynyddau, i groniclo unrhyw amgylchiad hynod a gymmerai le o fewn cylch ein Tywysogaeth; ac i'r ffynnonellau hyn y telid mwyaf o sylw gan y werin.
Nid oeddynt wedi meddwl am nemawr ddim erioed ond gweithio—ni chyfodai eu meddyliau yn uwch na chyrn yr eidionau goreu a feddent—ni wyddent am uchelgais annherfynol, am y siomedigaethau a'r profedigaethau caledion, am yr anhawsderau geirwon, am y rhwystrau anorfod, am y gorthrymderau lliosog sydd yn dilyn wrth gynffon gwybodaeth! Edrychasent hwy gyda dirmyg teilwng o honynt eu hunain ar unrhyw lanc llwydfoch yn difa ei nosweithiau wrtho ei hun yn ei ystafell unig heb gwmni ond cwmni ei ganwyll frwynen, a'i drwyn yn ei lyfr, a'i wyneb fel dalen deneu, yn treulio ei hun allan i gasglu ychydig wybodaeth, gan aberthu ei iechyd, ei gyfoeth, ar allor uchelgais a chlod. O wynfydedig anwybodaeth! Credid yn rhy fynych nad oedd dysgeidiaeth yn werth dim, ond i'r cyfryw ag oeddynt yn dymuno myned o fewn cylch yr hyn a alwent yn segur-swyddau, ac esmwythdra corfforol. Ystyrid addysg a llafurwaith yn rhy aml fel dwy elfen wrthwynebol, ac nad oedd yn ddichonadwy eu cyfuno. Rhyw fath o "ysgol bol clawdd" a gedwid mewn ambell i fan y pryd hyny. Sychai ei ffrwd i fyny yn yr hâf ac nid oedd yn rhedeg yn gref iawn hyd yn nod yn y gauaf. Nid oedd y meistr wedi ei dybied gan y cymmydogion i ddysgu neb yn mhellach nâ darllen ac ysgrifenu tipyn;