Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/333

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
  • Beth ddylai dyn ei gadw ar ol ei roddi i un arall? —(Ei air).
  • Beth borodd yn y gors, a dyfodd yn y winllan, ag sydd ar hoel yn y ty?—(Gogr rhawn).
  • Beth sydd a'i phen yn y mynydd a'i choes yn y nant? —(Ysgub rug).
  • Beth yw hwnw nad yw byth yn defnyddio ei ddannedd at fwyta? —(Crib).
  • Beth sy'n myn'd yn hwy wrth dori ei phen?—(Ffos).
  • Beth sydd yn myn'd hyd y llawr, ac wedi gorphen, aiff i'r gongl? —(Ysgub).
  • Beth yw pris pen heb ddim tafod? —(Crochan heb ddim gwaelod).
  • Beth yw dyfn y môr?—(Ergyd careg).
  • Pa beth a welir yn aml lle na byddo?—(Bai).
  • Beth yw hwnw a ehed yn uchel, ehed yn isel, nad oes ganddo draed, ond er hyny a wisga esgidiau?—(Llwch).
  • Beth â i fyny yn wŷn ac a ddisgyn i lawr yn felyn? —(Wy).
  • Beth red yn gynt wedi tori ei choes?—(Rhedynen).
  • Beth ydyw tŷ bach haiarn a drws yn ei dalcen? —(Haiarn smwddio).
  • Beth dyr yn mhob tŷ ac a ddaw adre'n gyfa?—(Siswrn).
  • Beth aiff i fyny ysgol a'i phen i lawr? —(Hoelen mewn esgid).
  • Pa sawl cynffon buwch sy'n ddigon o hyd i gyrhaedd y lleuad? —(Un os yn ddigon hir).
  • Paham y mae buwch yn gorwedd?—Am nas gall eistedd).
  • Beth â i fyny yn felyn ac a ddaw i lawr yn wyn? —(Yd yn y felin).
  • Beth sy mor hen a'r mynyddoedd?—(Y dyffrynoedd).
  • Pa sawl pric wna nyth brân?—(Dim un)