Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/334

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
  • Beth yw y rheswm fod buwch yn edrych dros glawdd? —(Am nas gall edrych drwyddo).
  • Beth yw y rheswm fod defaid gwynion yn pori mwy na defaid duon?—(Am eu bod yn lliosocach).
  • Beth sydd heb ddwylaw ac heb draed, heb erioed ben na chorff, er hyny gall agor llidiart?—(Gwynt).
  • Paham y mae Dwyfor yn afon ddiog?—(Am ei bod yn gorwedd yn ei gwely ddydd a nos).
  • Pa un futraf, ai golchi y dwylo yn y dwfr tylino, ynte tylino heb olchi y dwylo.—(?).
  • Beth sydd a llon'd ei fol o fwyd, a llon'd ei geg o faw? —(Pobty bricks, yn yr hwn y byddai bara, a'i geg wedi ei dubio â chlai, a elwid hefyd yn faw).
  • Dyn yn myned i hela, a chymmaint ag a ddaliodd fe'i gadawodd ar ei ol, a chymmaint ag a fethodd ddal, daeth a hwy adref? —(Dyn yn cribo ei ben).
  • Pa le yr oedd Moses pan ddiffodd y ganwyll arno? —(Yn y tywyllwch).

Beth aiff yn gynt na'r gwynt ac yn gynt na'r gwlaw,
O'r berllan hon i'r berllan draw?—(Meddwl dyn).

Wyth pen, a saith tafod,
A'r byw yn y marw'n gofyn diod?
(Nyth aderyn a saith o gywion mewn penglog).


  • Beth ydyw hwnw y gall pob dyn ei ranu, ond nas gall byth weled yn mha le y rhanwyd ef?—(Dwfr).

Pa beth yw bryn bach syth
Nas gall neb byth ei ddringo?—(Wy).

Beth ydyw tŷ bach pren
A'i ddrws ar ei ben?—(Buddai gnocio).