ac ni byddai hwnw, feallai, ond hen filwr un-goes, un-fraich, un-llygeidiog, wedi newid y cleddyf a'r bidog am y wialen fedw. A hawdd dirnad mor annghymwys oedd y dosbarth yma i amcanu dysgu y meddyliau tyner i ddringo llethrau serth dysgeidiaeth, nad oedd ganddynt fawr ond gwroldeb a llymder at eu galwadigaeth newydd. Eto, er mor amddifad o fanteision addysg oedd yr hen bobl, ceid yn eu mysg gymmeriadau hynod—ambell un heb fedru gair ar lyfr, ond yn medru cadw cyfrifon amryw weithwyr am flwyddyn mewn llyfr yna yn galw am ei ysgrifenydd arferol i wneyd ei filiau i'w gwsmeriaid. Byddai hwnw yn deall llun y peth yma a'r peth arall, a'r pris ar bob peth am flwyddyn wrth ei ddyfeisiau gwladaidd, megis cyfri ceryg a phethau cyffelyb, rhicio neu ysgorio ar ddernyn o bren, a chyfrifid pum' score neu bum nôd yn tali (tally) sef pedair llinell yn sefyll yn syth, ac un yn groes iddynt. Yr oedd y prynwr a'r gwerthwr yn cadw bob un ei bren i nodi maint y nwyddau a'r pris, a byddai y ddau bren bob amser yn cyfateb, heb amryfusedd na bai, oddieithr i ambell siomedigaeth neu gamgymmeriad ddigwydd yn ddamweiniol, fel gyda rhyw hen fasnachwr anllythyrenog wrth wneyd cyfrif gydag un o'i gwsmeriad cymmydog o amaethwr, yr hwn oedd wedi cael cryn lawer o wahanol nwyddau ar goel ganddo, y rhai y dodid eu llun ar lawr yn ei lyfr, neu ar lechen. Wrth fyned dros enwau'r nwyddau oedd yr amaethwr wedi gael gan y masnachwr, dyma fe'n dyfod at rywbeth crwn fel O yn ei gyfrif, ac yn dweyd wrth yr amaethwr "cawsoch gosyn yr amser a'r amser." "Cosyn! na chefais i'n enw'r anwyl!" ebai'r ffarmwr. "Do, chwi a'i cawsoch yn sicr, mae ei lun genyf yma yn llawn—eglur," meddai'r siopwr. "Na chefais i'n wir, i ba beth y prynwn gosyn genych, a chenyf ddigon o gaws fy hun? Mi brynais faen llifo genych," ebai'r ffarmwr. "Och
Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/34
Gwedd