Y Bwch a'r Blaidd a'r baich Eiddew.—
Aethai dyn at lan afon a chanddo fwch, blaidd, a baich o eiddew. Ni chariai y cwch oedd ar lan yr afon namyn un o honynt, ar unwaith, gyda'r dyn; a buasai yntau, y blaidd rheibus, yn bwyta y bwch, pe y gadawsid y ddau ar ol a myned â'r eiddew drosodd. Pe buasai'r dyn yn myned drosodd i ddanfon y blaidd, buasai'r bwch yn pori'r baich eiddew. Yn ngwyneb yr amgylchiad, pa sut yr elai â hwy drosodd mewn diogelwch?—(Myned a'r bwch yn gyntaf, a chroesi yn ol am y blaidd; yna dyfod a'r bwch yn ol drachefn, a myned a'r baich eiddew yn ol at y blaidd, ac yn y diwedd cyrchu y bwch)
Pais a mantell a thalaith dèn,
Bardd a derwydd yr ynys wen,
Y llo yn y beudy a'r gath ar y faingc,
Brenin Lloeger a brenin Fraingc,
Un mewn cwch a'r llall mewn sach,
A gwraig brenin Lloeger yn dod ag un bach,[1]
Yn fychan o faint,
Ar lan afon Saint,
A hithau yn wraig i frenin y byd;
Dicyn-docyn, twyll i gyd.
Brenin Ffraingc yn rholio i lawr
I ganol y môr o'r Penmaenmawr,
Brenin Cymru yn cael tori'i ben,
Yn mhell yn mhell o'r ynys wen.
Pry' pry' gerdded o, gerdded o,
Daliwch o, daliwch o, dyma fo.
Mewn llannerch ar fin llyn Pentre'r Felin, yn mhlwyf Ynyscynhaiarn, ceir Careg hir ar ei phen, ag y dywedid y byddai yn rhoddi tri thro o amgylch
- ↑ Cyfeiriad yw y rhigwm-ganu yma at enedigaeth Tywysog Cymru yn Nghastell Caernarvon, yn taflu amheuaeth ar y cyfryw draddodiad.