Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/347

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod yn deisyf arno wneyd pedair pedol newydd â'r hen bedolau oedd dan y ceffyl ar y pryd pan yn myn'd i'r efail, ac am i'r gwâs ddyfod â'r hen bedolau gydag ef adref hefyd. Gwnaed yr hyn a geisid, ond pa fodd —(Tynodd y gof y pedair pedol o dan y ceffyl, a gwnaeth o honynt "fwrthwyl," ac a'r mwrthwyl hwnw gwnaeth bedair pedol newydd i'r ceffyl, ac yna rhoes y mwrthwyl i'r gwâs i fyn'd ag ef adref i'w feistr).

Wrth rodio draw ar hyd y dre',
I wel'd fath le oedd yno,
Cyfarfum ddyn rhyfedda 'rioed,
A baich o goed oedd ganddo;
'Doedd 'run yn grwn, na'r un yn 'sgwâr,
Er maint oedd darpar seiri;
Na'r un yn union nac yn gam,
Na'r un yn werth ei losgi.
(Dyn a chanddo gydaid o flawd lli).

Beth sy'n grwn fel cosyn,
Yn ddu fel y frân,
A llathen o gynffon,
A thwll yn y blaen?—(Padell ffrio).

Lem, lem, lidiog,
Yn ffoi ar ol bedenog,
Pedenog yn ffoi heb draed o dano.—(?).

Nis gwn beth yw y dychymmyg hwn. Yr ystlen fenywaidd yw beth bynag. Llym, llym, llidiog, yw yr ystlen wrywaidd. Ni cheir Pedenog mewn unrhyw Eiriadur. Y mae Pedionog yn ansoddair i'r enw Pedion, sef traed; ond dywed y dychymmyg fod y Pedenog hwn heb draed o dano pan yn ffoi.

Dwy afr gyfarfuent ar ganol pont bren gul, uwchben afon ddofn: y naill yn myned yn groes