Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fi dyna fo; annghofio rhoi twll yn ei ganol wnaethum," ebai'r masnachwr. Rhyw ddull fel yna o gadw cyfrif llafur, masnach, neu daliad ardreth a arferid gynt. Hen oruchwyliaeth y degwm, o'r cae gwenith i lawr hyd at y cyw gŵydd, oedd mewn grym y pryd hwnw, a chryn arwr, yn anad neb, am gadw cyfrifon, fyddai prisiwr y degwm. Meddai gof cryf, a barn addfed am werth pob peth. Rhwymai ei geffyl wrth lidiard y cae ŷd, a cherddai ar ei draed drwyddo; dodai yn ei gof enw y cae, a nifer yr erwau ynddo, a pha faint i'r erw fyddai y cynnyrch, graddfa yr ŷd, ei bris, ac felly yn mlaen dros yr holl fferm. Wedi hyny, elai at fferm arall, ac arall, hyd yr hwyr, yna i arllwys cŵd ei gof i lyfr yr offeiriad. Cariai gynnwys pedwar neu bump o dyddynod—pob cae, pob grawn, pob erw, pob hobaid, pob twr o wair, pob oen, pob cyw gŵydd, a phob hwch, a faint o berchyll, heb un gair ar lyfr na medr i'w roddi; ac arllwysai ei gof bob nos, ac allan ag ef o ddydd i ddydd nes gorphen yr holl blwyf. Er ys oddeutu hanner can' mlynedd yn ol, gallai pob pentref a llanerch o'n gwlad ymffrostio yn eu cymmeriad gwreiddiol, yr hwn oedd yn arwr myrdd. o ystorïau difyrus, yn ffynnonell digrifwch, yn ganolbwynt y cwrw bach," neu'r neithior, ac yn brif atdyniad yn mhob man lle byddai. Ond y mae yn amheuthyn o'r mwyaf, yn yr oes ffugiol hon, gael gafael ar ambell un o'r hen bobl onest, dirodres, a diragrith, rhai na phetrusant ddywedyd y gwir yn blaen yn eich gwyneb, boed felus, boed chwerw. Ysywaeth, prin ac anaml ydyw pobl yr hen ffasiwn, ac y mae yn dra thebygol na cheir nemawr un yn yr oes nesaf a ddwg ei galon yn ei wyneb fel yn nyddiau ein hen gyndeidiau. Y mae yr hen gymmeriadau hyny—hen gymmeriadau gwreiddiol plant natur ein gwlad, yn cyflym ddarfod o'n tir, fel na cheir yn aros ond ambell i asglodyn o'r hen boncyff. Hwyrach mai i