Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddylanwad addysg y mae priodoli y ffaith hon, gan fod tuedd mewn addysg i unffurfio gwlad, a dwyn pawb megis i'r un safon; ac fel y byddo amser yn dirwyn i ben, a ninau ydym yn awr yn fyw, yn heneiddio, ac yn myned yn llai ein parch dadfeilio—a marw, felly y bydd i'r hen draddodiadau, cymun-roddion ein teidiau a'n neiniau, syrthio i ddinodedd ac anarferiad, fel na chodir hwynt ond gyda diflasdod a difaterwch.

Bu amserau, pan nad oedd digon o wawd yn nhrysordai cenfigen, i'w taflu ar y Cymry, ar eu hiaith, ar eu harferion, ac ar yr oll a berthynai i Gymru a'i phobl; ond erbyn hyn y mae amser gwell wedi gwawrio, ac y mae y genedl hon a'i gwlad wedi dyfod yn wrthddrychau, nid yn unig o sylw, ond o ymchwiliadau penaf Lloegr a'r Cyfandir. "Gan ein bod ni wedi dyfod yn wrthddrych sylw dysgedigion pob gwlad—ein iaith yn cael ei holrhain, ein hynafiaethau yn cael eu hegluro, ein hen draddodiadau yn cael eu nithio, a'r hyn oll braidd ag a berthyn i ni fel cenedl yn cael eu llusgo o ogofau tywyllion yr oesau ag ydynt wedi myned heibio; a chan fod y fath ddeffröad wedi cymmeryd lle yn mhlith estroniaid o'n plegid ni," y mae yn llawn bryd i ninau ddihuno o'n cysgadrwydd, er mwyn cadw dyledus gof am y pethau a fuont, heb betruso dim yn nghylch anhygoeledd unrhyw draddodiad, eithr eu cofnodi, bob rhyw a math, air am air, fel y clybuwyd y cyfryw o enau pobl yr oes o'r blaen, a'r ychydig sydd yn yr oes hon o rieni a hynafion briglwydion yr ardaloedd, yn cael hyfrydwch mewn adrodd y cyfryw i'w plant, ac i'r ambell un hvny a ddigwydd ymhoffi mewn cadw rhag colli hen weddillion yr oesoedd sydd wedi eu claddu.