PENNOD II.
YR ATHRONYDDOL.
NEWYDD wawrio y mae "Oes Rheswm " ar hanesiaeth a hynafiaethau Cymru. Bu genym ddigonedd o ysgrifenwyr yn ymwneyd a'r defnyddiau hyny; ond ymhonwyr annheilwng o ymddiried oeddynt. Yr unig wasanaeth o werth a wnaethant hwy oedd cofnodi a chadw chwedlau, brudiau, a thraddodiadau yr hen oesoedd. Yr hyn sydd eisieu yn awr yw beirniadaeth a wahaniaetha ffeithiau ein hanesiaeth oddiwrth chwedlau a thraddodiadau. Ymddengys eu bod yn gyfryw bethau ag y dylai gwyddonwyr ymdrechu cael allan yr hyn a ellir am danynt. Tra mae lliaws dros beidio rhoddi yr ystyriaeth leiaf i ofergoelion, ymddangosiad ysbrydion, &c., y mae ereill yn ceisio meddwl ai ni all fod i'r pethau hyn seiliau ar dir gwyddoniaeth.
Er mai anhawdd yw credu yn modolaeth ysbrydion, bwcïod, canwyllau cyrff, gwrachod y rhibyn, cwn bendith y mamau, a phethau eraill o gyffelyb natur—pethau wedi digwydd rai gweithiau nad oes un esboniad i'w roddi arnynt, ag yr adroddwyd am danynt gan bersonau call, a'u gair bob amser megis deddf. "Nid yw eu bod wedi cael eu profi yn helaethach gan yr oesoedd tywyll, neu gan bobl fwyaf anwybodus yr oes hon yn hytrach na phobl ddeallus, yn ddadl anwrthwynebol yn erbyn eu dilysrwydd, canys y mae gwareiddiad yn y cyfeiriad y mae wedi gymmeryd, gan gyfranogi o'r anianol yn fwy nag o'r ysbrydol wedi colli rhyw bethau pan yn ennill pethau eraill." Yr hen ffasiwn, fel y gwyddys, ydyw canmol pobpeth hen