Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pethau yr oesau gynt. Yn ol y syniad hwn, yr oedd yr hen bobl yn byw yn hwy na ni yn yr oes bresennol yn fwy dyfeisgar—yn fwy gwybodusyn gallach ac yn gryfach. Y mae ysgol arall, yn dysgu mai y gwrthwyneb i hynyna oll sydd wirionedd. Fodd bynag, bod y naill oes yn elwa oddiar brofiad a gwybodaeth y llall, fel y mae yn y cyfeiriad hwn yn olyniaeth yr oesau yn amlwg i bawb. Ond yn ddiddadl, yr oedd a fyno ymborth cryf, maethlawn, ac iachus yr hen oesau ag adeiladu cyfansoddiadau grymus, a diameu fod gwychach dynion wedi eu magu ar fwyd syml y dyddiau gynt nag a fegir heddyw.

Bu trais, gormes, adfyd, a chwyldroadau amser, yn foddion i gau ein hen genedl i fyny am lawer o oesau yn nghell dywyll anwybodaeth; y pryd hyny, ychydig oedd yn gweled a deall pethau yn ngoleuni dysgeidiaeth, a'r sawl oedd felly, cyfrifid ef yn ddewin neu brophwyd cymhwys a medrus; felly, nid rhyfedd i gymmaint o ofergoeledd gael ei gredu gan yr hen bobl. Yn eu plith hwy, yr hen syniad oedd nad oedd dynion yn byw yn un man ond ar y ddaear hon; y ser a'r planedau yn ddim ond llusernau uwch ben i ddangos goleu. Wedi y daethpwyd i goelio eu bod vn fydoedd, ond bydoedd gweigion, fel tai segur. Bu amser pan y byddai diffyg ar yr haul yn ddychryn iddynt, a choelient fod y duwiau mewn ymrafael ofnadwy â'u gilydd, neu y byd ar ddyfod i ben yn herwydd rhyw anffawd neu drychineb. Tra yr oedd y wlad mewn cyflwr felly, yr oedd yn bur hawdd i unrhyw ymhonwr gael coel ynddi. Os byddai un yn cyflawni campau go annghyffredin, credid, gyda pharodrwydd mawr, fod y cyfryw un mewn cyngrair â'r "gwr drwg." Nid yw yr ysgol hygoelus hono eto wedi tori i fyny, canys ceir amryw yn cymmeryd ac yn cyhoeddi fel ffeithiau bethau nad oes seiliau digonol dros eu derbyn fel dim ond traddodiadau anmhrofedig ac annhebygol. Er