i'r werinos, ac nid rhyfedd, fod yn dra esgeulus o ddysg a gwybodaeth. Er hyny, yr oedd ynddynt duedd ryfeddol i sylwi ar wrthddrychau diderfyn natur—ar anian ac arferion anifeiliaid, ehediaid, ymlusgiaid, pysgod, a phob math o goed a llysiau o'r dderwen gadarn—braff yn y goedwig hyd lysiau'r dryw ar ochr y clawdd. Gallu deall y deddfau hyn yn lled dda, a gweithredu mewn ufudd—dod iddynt, barai ddiogelwch i lawer rhag niweidiau oddiwrth wahanol hinsoddau allasent eu goddiweddyd o bryd i bryd. Yr oedd y tywydd o gymmaint pwys iddynt mewn gwlad a'i hinsawdd mor anwadal, fel yr oedd gofyn iddynt wneyd defnydd o bobpeth tuag at achub adeg i amddiffyn a diogelu eu daoedd a'u cynnyrch amaethyddol. Y mae yn wir y dywed hen air mai "Am y tywydd goreu tewi;" ond tewi yn hytrach nâ thuchan a feddylir; neu yn fwy nâ hyderu ar ddaroganau "y llyfrau bach "—yr Almanaciau, Y mae deddfau natur yn hollol anmhleidiol, yr un modd yr ymddygant hwy at yr hen ŵr fel y maban, y cyfoethog fel y tlawd, pan ddigwyddo y naill fel y llall fyned ar draws eu rheolau; ac y mae llawer o honynt yn gyfryw ag y mae eisiau astudio eu hystyr, eu cynnwysiad, a'u cyfeiriad, a'u dwyn i ymarferiad gan bawb, oblegyd
"Mae moroedd a mynyddau,
A rhai creaduriaid weithiau,
Yn dangos tywydd yn llawer gwell
Na llonaid cell o lyfrau."
Neu
"Mae moroedd a mynyddau,
A mil o hen gymalau,
Yn dangos y tywydd yn llawer gwell
Na llonaid cell o lyfrau."
Mae yr hin yn ymddibynu ar achosion fwy nâ mwy; gwir mai y lleuad sydd yn effeithio fwyaf ar y ddaear o barth yr hin; ond pan ddigwyddo y lleuad fod yn effeithio ar y ddaear i beri hin dda,