bydd Gwener yn effeithio ar y lleuad i'r gwrthwyneb, ac yn effeithio hefyd yr un modd ar y ddaear, a chyda hyny odid y bydd Mawrth yn effeithio ar Gwener, Mercher yn effeithio ar Mawrth, Iau yn effeithio ar Sadwrn, Sadwrn yn effeithio ar Iau, a Iau yn effeithio ar y Lleuad, a'r Lleuad erbyn hyn, efallai, wedi colli ei heffaith yn llwyr o'r hyn y disgwyliasid iddi fod, pe buasai heb fod dan lywodraeth cynnifer o fydoedd; a phan ystyrir fod y ddaear o dan effaith y cwbl, mae y dyryswch, wrth reswm, yn rhwym o fod yn fawr, ac felly, nid rhesymol meddwl y gellid dywedyd i'r dim am y tywydd.
Nid oes braidd neb i'w gael y dyddiau hyn, a feiddia wadu nad yw y seryddwr yn alluogi ragfynegu cyfnewidiadau y planedau, flynyddoedd cyn iddynt gymmeryd lle; proffwydir i berffeithrwydd am ddiffygiadau yr haul, y lloer, a'r holl blanedau, yn nghyd a sefyllfaoedd cydberthynol, ar unrhyw adeg a ddewisir—eu codiad, eu machludiad, a phob nodweddiad priodol i'w cylchdreigliad. Nid rhyw fath o ddewiniaeth neu rodd oruwchnaturiol yw hyn, ond effaith cydnabyddiaeth â deddfau hanfodol y cyssawd heulog, yn nghyd a dealltwriaeth o'r modd y maent yn gweithredu, a'u cydberthynasedd y naill tuag at y llall.
Yr oedd yn lled naturiol i'r hen bobl gredu fod cyffelyb ddeddfau o ddoeth drefniad, yn gweithredu yr un mor ddilys a'r rhai a nodwyd, yn nghynnyrchiad cyfnewidiadau ereill o fewn dosbarth ein cyssawd. Os oedd codiad a machludiad, diffygiadau, a holl gyfnewidiadau y cyrff nefol, dan reoliad deddfau o fewn cyrhaedd amgyffrediad dynol, oni ddysgai tebygiaeth naturiol i'r werin dybio fod digwyddiadau symlach neu lai, megis mellt a tharanau, oerni a gwres, gwyntoedd, gwlawogydd, &c., yn dangos gweithrediadau deddfau naturiol? Os yw y fath ddeddfau yn bodoli, rhaid fod y gorchwyl o ragfynegu ansawdd y tywydd wedi ei brofi yn anwrthwynebol.