Y mae yn amlwg fod llawer o'r hen ddywediadau gwedi eu selio ar natur, wedi cyfodi oddiar brofiad a sylwadau ymarferol, megis natur yn taro natur, &c. Y mae tystiolaeth wirioneddol fod yr Iuddewon yn hyddysg iawn yn y rheolau hyn yn amser Crist; oblegyd yr oedd Crist yn ceryddu y Phariseaid, gan ddywedyd, "O! ragrithwyr, chwychwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren, ond ni fedrwch wybod y pethau a berthyn i'ch heddwch chwi a ddywedwch pan y byddo yr wybr yn goch yn y borau, y bydd gwlaw, ac fe fydd." Gwelwn fod Crist ei hunan yn cadarnhau ffaith y wybodaeth o'r pethau hyn. Yr oedd yn hen drigolion ein gwlad ninau hefyd archwaeth i sylwi ar natur, ac yr oeddynt yn gallu tynu cyflawnder o wybodaeth a syniadau o'i mynwes, a gellir ymddiried llawer mwy yn eu hen ddywediadau hwy nag yn amcan o'r hin" y crach Almanaciau diweddar, canys ffrwyth profiad a sylw oesau ydynt.
Ychydig wyddom ni yn y dyddiau hyn, mae'n wir, am gyflwr pethau ac amgylchiadau yn yr hen amser gynt, yn ystod y maith ganrifoedd a aethant heibio cyn dyfeisiad y cloc. Y pryd hwnw "Llathen Fair," yr "Arth Fawr,"
"Seren y Gweithiwr," a'r cyffelyb oeddynt fynychaf yn arwyddion i wybod yr amser yn mysg y dosbarth gweithiol, a phan fyddai yr wybr yn orchuddiedig gan gymmylau, atebai caniad y ceiliog, cyffro y cwn, neu aflonyddwch y plant, yr un diben. Tebygol mai'r amserydd cyntaf ydoedd polyn wedi ei ddodi ar ei ben yn y ddaear, ac y ceid rhyw amcan gyfrif o gerddediad amser wrth sylwi ar hyd a chyfeiriad ei gysgod; ac o hyn drachefn daeth yr arferiad i'r gweithiwr tlawd sefyll i fyny yn syth odditan yr haul—edrych yn mha le y byddai ei gysgod yn terfynu, yna mesur ei hyd â'i draed. fel y gallai, drwy hyny, wybod yn lled agos pa adeg ar y dydd fyddai. At yr arferiad yma y cyf-