42 Bydd aml i grebyn farw'n sydyn fis Mawrth.
43 Gwanwyn, blin i'r march a'r ych.
44 Boreu du o Wanwyn, prydnawn teg.
45 Pob aderyn a gân cyn Gwyl Fair, a wyla'n hidl cyn
Calanmai.
46 Os braf fydd foreu ddydd Gwyl Fair
C'od yn foreu i brynu gwair.
Hefyd,
47 Os bydd yn deg foreu Gwyl Fair,
Gwerth dy glôg i brynu gwair.
48 Bu weithiau heb auaf, ni bu erioed heb wanwyn.
49 Mor sicr a Mawrth yn y Grawys.
50 Llawn cystal gan Ianto roi'i wraig yn y ddaear,
A bod Dy'gwyl Fair yn hyfryd a chlauar.
51 Hir wanwyn wedi'r Pasg
Y sydd yn gâs gan borthwr.
Hefyd,
52 Hir wanwyn wedi'r Pasg a wna y dâs yn gileyn.
Mae Sul y Pasg bob amser y cyntaf ar ol cyhydedd y gwanwyn; felly nis gall fod yn gynt na Mawrth 22ain, nac ar ol Ebrill 25ain.
53 Hir ddydd o wanwyn a sych dri sychiad sach.
(Mae sychu mawr ar sach).
54 Prydnawn hir o Fawrth a borau hir o Fai.
Mawrth y blaned sydd wedi rhoi ei henw i'r ddau Fawrth arall y mis a'r diwrnod, ac yn ol yr hen ddewiniaid gwae y plant a enir y mis hwn. Gelwid ef hefyd yn fis y Gwanwyn, neu y mis ystormus, o herwydd y gerwinder a'r ffyrnigrwydd