Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hefyd,

24 Yn Ebrill y gwcw a ddengys ei phig.

25 Amser y gwcw yw Ebrill a Mai,
A hanner Mehefin chwi wyddoch bob rhai.

26 Mis cyn C'lanmai cân y cogau,
Mis cyn hyny tŷf briallu.

27 Os cân y gôg ar ddraenllwyn llwm,
Gwerth dy geffyl a phryn bwn.

Hefyd,

28 Os cân y gôg ar bren llwyd,
Gwerth dy farch a phryn fwyd.

Eto,

29 Os cân y gôg ar bren llwm,
Gwerth dy gôb a phryn ddegwm.

Y syniad yn y ddwy linell yna yw, fod gwanwyn llwm yn golygu haf toreithiog i'w ddilyn, ac felly, mai elw i ddyn fuasai gwerthu hyd y nod ei gôb er prynu degwm, yr hwn, gynt, a osodid ar gyhoedd.

30 Cywion gwyddau ac ebol bach,
Pa'm ddaw Calanmai bellach?

Yn y maes, yr helygen sydd yn addaw haf gyntaf yn llawn o flodau, a elwir yn gywion gwyddau." Mor briodol yr enw. Tebycach ydynt i gywion gwyddau nag i ddim arall. Hefyd gwnant eu hymddangosiad tua'r un amser. Byddai amaethwyr yr hen amser yr adeg yma o'r flwyddyn yn llongyfarch eu dâ fel hyn:

31 Bydd fyw eidion, bydd fyw.
Wele'r filfriw.

Pan welid y filfriw, neu fywyd yr ŷch, fel ei gelwid, yn dair modfedd o hyd, troid yr eidion du