Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

allan i fyw, gan ei gyfarch yn awgrymiadol, heb fanylu, a'r ymadrodd "O! anifail, paham y byddi farw a thi yn gweled y "filfriw?"

1 MIS MAI, difrodus geilwad,
Clyd clawdd i bob digariad;
Llawen hen diarchenaid,
Llafar côg a bytheiad.

2 Mai a gwyd y galon.

3 Cas gan Fai i Ebrill dyfu.

4 Blodau cyn Mai, gorau na b'ai.

Hefyd,

5 Llawer o flodau cyn Mai,
Wna'r afalau a'r eirin yn llai.

6 Gwlaw mis Mai, gorau na b'ai.

Hefyd,

7 Gwlaw yn Mai sy'n fara trwy'r flwyddyn.

8 Daw cawodydd mis Mai fel y llanw a'r trai.

Credid fod gwlaw Mai yn feddyginiaeth anffaeledig at ladd llau anifeiliaid, a chredid hefyd fod y gwlaw cyntaf yn Mai yn dda i iachau llygaid dolurus. Ereill a'i cyfyngent i Ddydd Iau Dyrchafael, gan ofalu, pe y digwyddai wlawio ar y dydd gwyl hwnw, am gadw y dwfr mewn potel, a'i ddefnyddio fel meddyginiaeth at lygaid dolurus, a'i alw yn "Ddyferion Mai."

9 Mai gwlybyrog gantho cair,
Llwythi llawn o ŷd a gwair.

10 Boreu hir o Fai.

11 Cwcw Galanmai—cosyn dimai.

12 Galanmai mae cyfrif hesbyrniaid.