Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

19 Blwyddyn wleb a wna ysgubor lawn,
nid o ŷd ond o wellt.
20 Blwyddyn egfaenog,
blwyddyn arianog.
[Egfaenog=grawn drain gwynion.]

21 Blwyddyn gneuog, blwyddyn leuog.


RHIFEDI DYDDIAU DEUDDENG MIS Y FLWYDDYN.

Tri deg sy'n mis Ebrill a Medi heb weddill,
A Thachwedd er cynnull ei bennill i ben;
Mehefin fis hyfryd'r un gyfrif mae'n gym'ryd,
I eraill un arall a rifen.

Ond Chwefror fis chwerw dau ddeg ag wyth hoyw,
A gymmer i lanw rwy'n bwrw er budd;

Ond Blwyddyn Naid hynod myn chwaneg un diwrnod,
Yn barod i'w bennod ef beunydd.

Wyth gan mil o stil oes dyn—mynedus,
Yw munydau'r flwyddyn;
Trigain ag wyth hoywlwyth hyn,
At ragor pymtheg trigyn.


Nid oedd ar yr hen bobl eisiau hin-wydr o gwbl, canys yr oedd lliw yr awyr, ar adegau neillduol, yn arweinydd iddynt, lliw a ffurf y cymmylau yn arwyddion pwysig, a gwyddent wrth y gwynegau yn eu cyrff, ysgogiadau y own a'r cathod, yr adar, y moch, a'r ceffylau, ac agos bob peth arall, pa dywydd a ddilynai, ac a lesolai y gwahanol greaduriaid. Credent fod pob creadur dan "iau caethiwed" yr hin—fod yr haul, y lleuad, neu yr arwyddion yn effeithio ar droed, gàr, coes, clun, braich, bron, trwyn, &c. Credent, nid heb reswm, fod gwynt o werth mawr i ffrwyth tirfod gwynt y dwyrain yn sychu mewn awr gymmaint ag a wna gwynt y de mewn pedair awr—fod gwynt gogledd-ddwyrain yn sychu mewn awr gymmaint ag a wna gwynt y de mewn tair awr—