Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fod gwynt gogledd a gwynt gogledd-orllewin yn sychu cymmaint mewn awr ag a wna gwynt de a gwynt de-orllewin mewn dwy awr; ac felly, mai gwynt de a de-orllewin oedd a lleiaf o sychder ynddynt, a thrwy hyny yn oreu tuag at gynnyddu ir-naws a chwanegu tyfiant pob rhyw lysiau.

ARWYDDDION ODDI WRTH YR HAUL, Y LLOER, Y SER, &c.

Yn mherthynas i amrywiol ymddangosiadau yr Haul, y Lloer, y Ser, neu unrhyw ymddangosiadau wybrenol ereill, y penaf yw yr haul, yna y lloer, ac ereill o'r ser gwibiog; neu'r planedau.

Os bydd yr haul ar ei godiad yn ymddangos yn goch neu wanaidd, ac wedi hyny yn dywyll, neu yn orchuddiedig gan gwmmwl du dyfrog, mae gwlaw yn agos; neu, os bydd ei belydr yn ymddangos cyn ei godiad, neu gylch dyfrllyd megis yn ei amgylchu yn y boreu—os nad yn diflanu yn fuan, neu os bydd yn ymddangos yn banylog, neu gymmylau cochion a duon o'i amgylch ar ei godiad. Os bydd ei ymddangosiad ar ei godiad yn fwy llydan a chwmpasog nag arferol, neu os bydd yn codi â chylch llwyd-las o'i amgylch, ac yn llewyrchu neu yn tywynu yn wan, mae hyny yn golygu gwlaw, yn gystal a bod pyst dano, neu golofnau cyffelyb yn saethu oddiwrtho. Os bydd ei fachludiad yn ddisglaer a choch heb gymmylau duon yn agos ato, golyga hyny dywydd teg neu rew; ond os bydd yn machlud dan gwmmwl dudew, golyga hyny fod gwlaw yn agos.

Yr un rheolau ag a wnant y tro mewn cysylltiad â'r haul, a briodolir hefyd i'r lloer. Os ymddengys un cylch ogylch iddi, a bod lliw du yn ei chanol, mae hyny yn rhagfynegu gwlaw, ac weithiau eira yn y gauaf a'r gwanwyn; ond os bydd chwaneg nag un cylch yn ymddangos, maent yn argoeli agosrwydd gwyntoedd a thymhestloedd.