Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hefyd, os bydd ei chyrn yn ymddangos yn bŵl neu yn fyrion ar bwynt adeg y newid, golyga hyny dueddrwydd i wlybaniaeth; felly hefyd os bydd ei hanner yn ymddangos yn gliriach yn adeg y llawn, pan y bo yn newid ger y "twr ser" Medi y 15fed. Os bydd yn ymddangos yn goch, golyga hin wyntog; ond os yn ddisglaer ac eglur, tywydd teg.

"Crefiwch wawr o fawr i fach,
Y lloer lâs llawer a wlych,
Llid a gwynt yw'r lleuad goch,
Y lloer wen sy anian sych.

Mae weithiau yn digwydd fod megis dwy neu. dair o leuadau yn ymddangos ar unwaith, yr hyn a ddigwydd, yn gyffredin, ddeuddydd neu dri ar ol y llawn—arwyddion ydynt o wlaw a gwynt. mawr, a thywydd afrywiog i barhau dros hir amser, Yr un ddychwaen y sydd yn dilyn yr hyn a elwir Cyw haul, yr hwn a ystyrid yn rhagflaenydd blinfyd neu ddifrod mawr.

Rhoddid hyder mawr ar godiad, machludiad, ac ymddangosiad y ser sefydlog; ac ar hyny y byddai y prif reolau yn nghylch hau, medi, &c., yn ymddibynu. Os bydd un o'r ser mawrion yn ymddangos fel pe bae gylch o'u hamgylch, neu megis yn gwreichioni, neu yn fwy nag arferol, neu yn lled dywyll, neu yn anamlach, gellir bod yn lled sicr o wlaw. Pan fo goruchion hefyd i'w gweled fel ser yn ehedeg yn yr wybr, gellir bod yn lled sicr o wynt o'r cyfeiriad hwnw.

ARWYDDION GWYNT.

Mae gwyntoedd yn dwyn amryw gyfnewidiadau yn yr awyr, yn y dwfr, yn nghyrff dynion, anifeiliaid, &c. Arwyddion o wynt ydynt, cymmylau creigiog yn symmud yn araf, cymmylau ysgrythr-walltog, cymmylau ac wybr goch yn y