boreu; cymmylau yn cerdded tua'r haul, yn gorphwys megis ar yr haul yn ei fachludiad, yn ehedeg yn araf ar ddiwrnod clir, yn mwyhau neu yn ymddangos yn ddisymwth, tua'r wybr mewn manau ereill yn glir, yn ymddangos yn uchel iawn, ac yn rhesau gwynion teneuon, fel cnuoedd o wlan neu gynffonau ceffylau; darn fechan o'r enfys yn ymddangos, neu ei bod o liw coch, tanbaid, ar ol gwlybaniaeth; taranau heb fellt; goruchion, a elwir yn gyffredin ser yn syrthio, yn llamu neu yn saethu yn yr awyr; y môr yn chwyddedig ar dywydd teg: rhyw drwst neu si mewn môr a choed; tân yn llosgi yn wan, gan sio fel gwynt; fflam tân neu ganwyll yn chwareu fel pe mewn gwynt; plygiad fflam glo, a'i waith yn taflu mwy o ludw nag arferol; cigfranod yn ehedeg yn uchel, neu yn curo eu hadenydd wrth ehedeg; gylfinhir yn ehedeg i gyfeiriad y gogledd; cathod yn llyfu eu blew yn erbyn y graen, neu yn golchi eu gwynebau dros eu clustiau, neu yn eistedd a'u cefnau at y tân, neu yn chwareu hyd y tai, neu yn crafu clustogau, carpedi, a phethau ereill perthynol i ddodrefn tai—o hyny y tardd yr hen ddywediad, "Mae'r gath yn codi'r gwynt."
Yr awyr, ar ol bod hir amser yn lâs a siriol yn dyfod yn bruddaidd ac yn frith o fân gymmylau, tebyg i wyrddni y môr, hefyd yn goch yn y borau; ei bod yn glwstwr o gymmylau gwynion, yr hyn a elwir yn draeth-awyr; cymmylau yn ymddangos yn debyg i gnuoedd gwlân, yn gauedig, ac yn dewion tua'u canolau, a'u hymylau yn bur wynion, tra yr awyr o'u hamgylch yn ddisglaer; cymmylau duon bychain yn ymddangos yn y prydnawn; cymmylau gloewon, gleision, neu