Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/63

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wyrddion, yn ymddangos yn agos i'r haul ar unrhyw adeg o'r dydd, neu i'r lleuad yn y nos; cymmylau fel tyrau neu gnufiau gwlân tua'r de a'r gogledd-orllewin; cymmylau ar ddull pysgod yn y gorllewin ar fachludiad haul, yn neillduol os o arddull creigiau, neu dyrau â phenau gwynion; cymmylau yn uchel iawn, ac yn symud yn ngwrthwyneb y gwynt, neu yn groes i'r cymmylau a fyddo is na hwynt; cymmylau fyddo yn symud gyda'r gwynt, gan ddyfod yn sefydlog pan ddelont i'r pwynt o'r awyrgylch a fyddo yn y gwrthwyneb i'r gwynt; gwynt yn symud yn fynych; hir chwythu o'r deau; llawer o lwch yn codi gyda throwynt; yr enfys yn ymddangos yn wyrdd; dwy enfys yn ymddangos, yn neillduol, yn wyrddlas.

Enfysau ddechreu'r lleuad,
Gwlaw hyd i'w diweddiad.

Enfys y borau, aml gawedau,
Enfys prydnawn, tegwch a gawn.

Pan gollir gwlaw o'r Dwyrain y daw.

Goleu fwrw, cais dy glôg.

Coch i fyny, teg yw hyny;
Coch i lawr, gwlaw mawr.

Barug cyn nos, gwlaw cyn dydd.

Mellt heb daranau, yn enwedig, os o'r gogledd-orllewin; niwl ar y bryniau heb ddim yn y dyffrynoedd; niwl neu darth yn codi allan o lynau ac afonydd, ac yn esgyn hyd benau y bryniau; ewyn yn ymgrynhoi hyd yr afonydd; pistylloedd a rhaiadrau yn anfon i lawr eu llafar; dail coed yn troi megis tu gwrthwyneb allan; coed, cyrs, neu wellt yn swnio ar ychydig wynt; coed yn chwyddo ac yn lleitho; ceryg, dodrefn, halen, a pharwydydd yn lleitho; chwyn y môr, er yn hongian mewn lle sych, yn lleitho; cig moch yn dyferu; penwaig