yn ymroi mewn halen; huddugl yn syrthio mwy nag arferol; tân yn llosgi yn oleuach; cylch o amgylch canwyllau; hen aelodau clwyfus, ysigdod, a chyrn ar draed yn dolurio mwy nag arferol; clychau i'w clywed megis yn mhellach nag arferol; dorau yn anhawdd eu cau a'u hagor; gwartheg ac ychen yn pori yn foreuach ac yn fileiniach na'u harfer, neu yn edrych tua'r wybren, ac yn ffroeni, neu yn gorwedd ar yr ochr ddeau; ceffylau yn estyn eu gyddfau ac yn sawru yr awyr â ffroenau llydain; asynod yn lleisio fwy nag arfer; defaid yn pori a'u penau yn groes i'r gwynt, neu ynte yn rhedeg a neidio, fel pe yn ymladd â'u gilydd; geifr yn fwy afreolus nag arferol; moch yn anesmwyth, yn rhochian yn uchel, ac yn cario gwellt i'w cytiau; cwn yn udo, neu yn fwy llonydd a thrymaidd, ac yn gwrthod bwyd, ond yn pori glaswellt; cathod wedi colli eu ffyrnigrwydd, ac yn aros yn y tai, neu yn golchi uwchlaw eu clustiau chwith â'u pawenau; llyffaint, os yn felyn-ddu, yn neidio o gyfeiriad y môr; llygod yn fwy aflonydd nag arferol, ac yn gadael y caeau a'r cloddiau; chwain a gwybed yn brathu yn llymach; llawer o bryfed yn dyfod allan o'r ddaear; y pryf copyn yn brysurach nag arferol; gelod yn dyrchafu i gwrr uchaf poteli; adar y môr yn ymgasglu ac yn ehedeg i'r tir, ac adar y tir yn ehedeg tua'r môr a'r llynau; hwyaid a gwyddau yn gwaeddi ac yn ymwylltio drwy'r dwfr; paenod yn ysgrechian; colomenod yn ehedeg yn drymllyd tua'u cartrefleoedd; adar tô yn cadw mwy o ystwr nag arferol; Robin Goch yn ymddangos yn drymllyd, ac yn canu yn nghanol y gwrych; crychyddod yn myned yn groes i lif yr afonydd; bargut glâs a gwenoliaid yn ehedeg yn isel; llais y gylfinhir, y frân, a'r aderyn cywarch, yn fwy hyglyw nag arferol; piod yn ysgrechian; cler y dom yn ymddangos yn flinedig,—