"Gwawn," ar y gwellt a'r twmpathau; llawer o wlith ar laswellt; asynod yn ymrwbio yn erbyn muriau a choedydd, a'u clustiau yn ymollwng yn mlaen yn fwy nag arferol; cathod wrth olchi eu gwynebau yn tynu eu pawenau ar draws eu talcenau; llyffaint melyn yn neidio yn gyfeiriedig oddiwrth y môr; gelod yn swrth ac ymdorchog yn ngwaelodion poteli; crychyddod yn ehedeg yn uchel; ystlumod yn ehedeg yn gynnarach nag arferol; Robin Goch, yn y prydnawn, yn canu ar ben tŷ neu frig coeden; brain yn prysur ehedeg yn erbyn y gwynt; gwenyn yn ehedeg yn mhell oddiwrth eu cychod; chwilod duon yn ehedeg yn y prydnawn; a llawer o gler y dom a gwybed yn chware yn ngwres yr haul;
"Tebycaf i wlaw, tebycaf i deg."
"Tywyll fwrw, goleu fynydd.
"Cochi i fyny, teg yfory."
"Os collir hindda, o'r Gogledd daw gynta."
"Pan gollir y tês o'r Dwyrain ei ces.
"Ar hindda mae cynuta,[1] rhag anwyd y Gaua."
Ar hindda mae gweithio, rhag newyn pan ddelo."
"Nid yn y boreu mae canmol diwrnod teg."
Mae y rhan fwyaf o lysiau hefyd wedi cael sylw yr hen bobl parth cyssylltiad eu natur â'r hin. Heblaw fod y rhan fwyaf o honynt yn lledu eu blodau ar dywydd heulog, ac yn eu cau yn yr hwyr, priodolir iddynt amryw dueddiadau ereill yn ngwyneb gwlybaniaeth, sychder, oerni, gwres, &c., megis ag y dywedir fod coesau y feillionen yn chwyddo ac yn tyfu yn sythach o flaen gwlaw; llysiau'r cryman yn cau o flaen tymhestl, ond yn agor o flaen tywydd teg.
Y mae, hefyd, gan bob cwmmwd neu ranbarth yn y sir eu harwyddion neillduol eu hunain, yn annibynol ar y rhai cyffredinol, yn nghylch
- ↑ Cynnud yw briw-wydd neu goediach, a cynnuta yw hel neu gasglu briw-wydd.