Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

tywydd, &c., fel y gwelir oddiwrth yr enghreifftiau canlynol:—

Niwl Conwy, fel ei gelwir, yn dyfod i lawr gyda godre Moelwnion, gan gyfeirio tua Nant Ffrancon, a ddynoda dywydd teg. Twll goleu yn y cwmwl rhwng y Tryfan a'r Gludar, a ddynoda hefyd dywydd teg. Niwl tywyll yn dechreu esgyn Carnedd Ddafydd, a Moelyci yn gwisgo cap o niwl, a ddynoda wlaw yn agos. Cymmylau yn ffurfio yn y borau ar yr Aryg, Carnedd Llywelyn, a Charnedd Ddafydd, nes ffurfio magwyr a elwir "y wal wynt," a ddynoda wynt cryf yn fuan. O flaen cyfnewidiad tywydd, bydd niwl yn ymgasglu i'r pant y sydd uwch ben y Clogwyn Coch, ac yn ymestyn i lawr i'r dyffrynoedd, a'r Wyddfa yn glir. Gwelir, weithiau, hyd lethrau bryniau a mynyddau, ddyfroedd yn chwidr—belydru dan effaith clir oleuni yr haul, drwy gymmylau toredig, ar leoedd gwlybion, ac mae'r fath bethau i'w hadnabod wrth yr enwau "Clytiau Marsli" neu "Ddysglau Marsli." I sylwedydd craff, yn ol llên gwerin, y maent yn argoelion o dywydd teg. Twrf ac aflonyddwch Porth Neugwl, yn Llŷn, y sy ragfynegiad tra chywir o wynt gorllewinol, a gwlaw, eithr cynhwrf Aber Sela, yn nhraeth Castellmarch, sy genad hedd, yn golygu sychder a thawelwch i ddilyn. Adsain uchel, pell, glàn môr Abererch, tra yn ymrolio ar y Rô Hir, sydd o'r un natur ag Aber Sela, yn arwydd o dywydd sych, ond twrf hir barhaol glan y môr, o enau yr Afon Wen hyd Gricerth, sy braidd o'r un natur a Phorth Neugwl—bob amser yn "fab y daran" yn ei bregeth.

Un o aelodau y tylwyth anesmwyth yma hefyd yw y llecyn a adnabyddir wrth yr enw "Mawnog Ddu," ar dir Abercin, yn mhlwyf Llanystumdwy, am yr hon y dywed llafar yr ardal—" Ni chanodd y Fawnog Ddu erioed am ddim," gan feddwl, a hyny yn ddigon priodol, ei bod yn canu am