Prawfddarllenwyd y dudalen hon
wlaw. Bach Penychen yn crafu, a ddynoda hefyd wlaw. Bach Cilan yn Lleyn, yn crafu a ddynoda Gweled tir sir Feirionydd yn wynt o'r gogledd. isel ac agos, a ddynoda wlaw; gweled y Werddon yn amlwg, yn y borau, a olyga dywydd mawr; ond gweled ei chwr deheuol yn eglur, yn y prydnawn, a olyga hin deg.
"Hem wen Cricieth gwlaw mawr anferth."
"Pan fo'r Eifl yn gwisgo'i chap,
'Does fawr o hap am dywydd.'
Hefyd,
Os bydd cap am ben Moel Hebog,
Bydd yn siwr o wlaw cynddeiriog.
Pan bo'r haul yn machlud megis dan gwmmwl dudew, dywedir yn Lleyn,—"Mae yr haul yn myn'd i lawr rhwng y gist a'r pared, daw yn wlaw yn fuan."