Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.
Y DULL O FYW.

AR y cyntaf, pan nad oedd dynion yn aml o nifer, ychydig o driniaeth oedd yn angenrheidiol yn y wlad; y llanerchau brasaf yn unig a ddygid dan ddiwylliaeth; ond fel yr amlhaodd dynion cyfyngodd y tir; a bu raid trin y llenyrch geirwon, arloesi coed ac eithin a grug a manwydd, llenwi pantiau, gostwng lleoedd uchel, a sychu lleoedd gwlybion i'r diben o ddwyn y tir dan gywreiniach ac effeithiolach diwylliaeth, er cynnaliaeth dyn. Nid digon erbyn hyn oedd byw ar helwriaeth, ac ar laeth geifr a gwartheg a borent y dail a'r glaswellt mewn meusydd ac ar lethrau nas cawsant erioed eu diwyllio; rhaid oedd darostwng diffaethleoedd dan ymerodraeth y rhaw a'r aradr, a chynllunio trefn i ddofi tiroedd geirwon, ac i wneuthur iddynt, megis o'u hanfodd, ddwyn had i'r hauwr a bara i'r bwytawr. Ac felly, yn lle eithin cyfododd haidd ; yn lle grug, brwyn a danadl, cyfododd ceirch a rhyg, ac yn lle drain a mieri, cyfododd gwenith melynwawr. Nid oedd yr hen bobl yn deall nemawr ddim am effeithiau daionus a llwyddianus cylchyniad cnydau, na nemawr ddim am achlesiad. Calch fyddai eu gwrtaith hwy, gan nad pa un bynag ai marl, tywod, clai, sych ai gwlyb a fyddai y maes a wrteithid; nid oeddynt un amser yn ceisio atudio elfenau diffygiol neu orddigonol y gweryd, a'u dwyn i gyfartaledd priodol. Yr oedd

Yr oedd yr hen ddywediad fod yn rhaid i'r amaethwr wneyd ei ardreth bedair gwaith drosodd cyn y gallai dalu ei ffordd yn cael ystyriaeth led bwysig yn eu meddyliau. Byddai llawer ymgom