Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddifyr yn cymmeryd lle rhyngddynt, wrth fugeilio anifeiliaid cyrnig a defaid, arferiad a ddengys fod y wlad yn ol mewn diwylliant a chrynodeb, drwy beidio cau y tir i fewn yn gaeau cyfleus, a thrwy ei adael yn dir agored, peth yn dir llafur a pheth yn dir pori drwy eu gilydd, canys dyna arfer yr hen oesau cyn gwneuthur cloddiau i rwystro anifeiliaid allan i grwydro o'r lleoedd a bennodid iddynt. Nid oedd y fath drugareddau a mapiau wedi cael eu breuddwydio am danynt y pryd hyny, i'r diben o nodi allan derfynau, a byddid yn gosod piler o gareg yn y fan, gan ei alw yn dirfaen, neu derfyn, drwy gyfnewid yn Gymraeg yr m i f, yn ol rheolau geiriau cyfansawdd; ac yn ol llên gwerin, dyna yn briodol ystyr Hirfaen Fawr a Hirfaen Bach, ar dir y Betws Fawr, yn mhlwyf Llanystumdwy, o fewn i gwmmwd Eifionydd. Ond "o dipyn i beth," "troes y rhôd " ar y dull yma o fyw—dechreuwyd codi cloddiau, ond wrth reswm, cloddiau hynod o annghelfydd oeddynt, yn cymmeryd ac yn gorchuddio agos i hanner y tir; canys nid oedd neb yn gofalu dim am eu gwneyd yn union, am y barnent y byddai i'r anifeiliaid gael gwell cysgod ar wahanol wyntoedd ac ystormydd, &c. Byddent yn hynod o fanwl am gadw at amser gyda phobpeth—byddent yn fwy manwl o lawer o'u harferiad o gadw tir yn y gwanwyn ar y 25ain o Fawrth nag o gadw "y dydd cyntaf o'r wythnos." Gogyfer â'r cyfryw ddiwrnod—"diwrnod comio," fel ei galwent, byddent wedi berdio[1] neu frigo y cloddiau—wedi gwneyd carcharau a llyffetheiriau, er paratoi at anfon y defaid i'r mynyddau; ac yr oedd y "weithred seneddol" yn rhwymo ynadon pob rhanbarth i ofalu am fod i lidiardau y comisoedd gael eu gosod i fyny erbyn y dydd hwn. Dydd Llun Sulgwyn

  1. ↑ Dichon mai talfyriad o Byrio, neu ynte, Byrderio yw Berdio, neu, o'r tu arall, mai beard (barf) y Sais wedi ei Gymreigio ydyw Berdio sef barfio.