hefyd oedd ddiwrnod pwysig yn eu golwg, pryd y byddid yn cerdded pryffesydd,[1] sef cerdded ffiniau tiroedd; a llawer cynllun a arferid yn nglyn â hyny. Hyd y mynyddau nid oedd dim i'w dynodi ond rhyw wrthddrychau yma a thraw, megis ceryg, tociau brwyn, twmpathau eithin, pyllau dwr, &c. Ac mewn trefn i gadw mewn cof Y nodau hyn, byddai yr hen bobl yn cerdded ar hyd y ffiniau, gan ddwyn gyda hwy nifer o blant, a gwialen fedw, yr hon a arferid at gynhorthwyo y cof, ac nid yn fuan yr annghofid ei gwasanaeth. Arferid moddion ereill, megis tori twll mawr mewn man neillduol ar y ffin, a bwrw afalau neu bethau cyffelyb i fewn, i'r plant i'w codi; neu ynte ddodi y plant i gario ceryg mawrion o bell ffordd i ryw fan neillduol, nes byddent yn chwys dyferol wrth gyflawni y gwaith rhag digwydd iddynt rywbeth a fuasai gwaeth. Mewn rhai manau, arferai yr offeiriad flaenori y dorf, yn ei wisg wen, a'i lyfr yn ei law, yr hwn a ddarllenai wrth gychwyn, ac yn ymyl manau amheus, lle y cyhoeddai felldith ar y sawl a symudai ffin ei gymmydog.
Er ys dwy ganrif neu dair yn ol, pryd yr oedd yn arferol i olrhain yn arlwybrol weithredoedd y dwfr a fyddai eisoes wedi treulio y tir yn llwybrau culion o gryn ddyfnder, nid oedd gwell gwneuthurwyr ffyrdd yn ein gwlad na'r gornant grychias, a chwyddai ar ochr y bryn ar "doriad cwmmwl" neu doddiad eira; y rhai, drachefn, wedi eu caregu, gan ein tadau, yn y modd goreu gallent, a wasanaethent yn brif-ffyrdd, ac yn fynedfeydd i'r
- ↑ Y mae Pryffwn yn air Cymraeg, yn golygu excellent, superior. Dichon mai o honynt hwy y tardda pryffesydd. Ond tebycach mai ei raniadau ydynt Pry—ffes—ydd. Pry ydyw cynnyrch, ffes yw trem, tremio, treiddio; ac ydd yn olddawd. Felly Cynnyrch Dremydd yw y gair tryffesydd.