cymoedd cymmydogaethol. Mae rhai o'r ffyrdd culion hyn yn aros hyd heddyw, a rhyw gornel fechan yma ac acw ar hyd-ddynt, fel os digwyddai i ddau gàr neu gyffelyb gyfarfod â'u gilydd, y gallai un encilio o'r ffordd tra y llall yn myned heibio. Yr oedd yr hen bobl yn ddiddig ddigon ar y fath ffyrdd a'r rhai hyn, heb na threth na chyfraith yn eu rhwymo i'w hadgyweirio—na dim o'r fath ; ac yn wir yn yr haf-dymmor tesog nid oedd angen am well adgyweiriad na throi y fieren bigog, neu y ddraenen beryglus, a fynai ymestyn dros y ffordd, ac ymgofleidio â'i rhyw yr ochr arall, dim ond troi y rhai hyn i'r clawdd, gan rywun a ddigwyddai fyned heibio, a chau pob llidiard ar ei ol, a gyfrifid yn ddigon o ofal am y ffordd. Yn y gauaf ni ellid ei hadgyweirio o gwbl, am y byddai y gornant yn mynu ei ffordd ac yn rhuo ar bawb a ddigwyddai ddyfod yn agos.
Gellid cymhwyso yr un gyfundrefn hefyd at eu tai, y rhai fel rheol, a adeiledid mewn pantleoedd cysgodol, yn ymyl ffrwd, ac allan mor bell ag oedd ddichonadwy o gyrhaedd y dryghinoedd. Rhywbryd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg y gosodwyd i fyny gyntaf simddeiau cyfleus. Yn flaenorol i hyn, rhaid fod, hyd y nod y cyfoethogion yn dra annghysurus, o ran cysur teuluaidd, mewn cymhariaeth i gysur yr oes hon. Sefyllfa yr aelwyd oedd—canol yr ystafell, yno y gosodid y coed tân. Yn nen y tŷ, goruwch yr aelwyd, yr oedd math o dwr, neu gorn, wedi ei lanw âg estyll, cyfleuedig yn y fath fodd ag i gadw allan y gwynt a'r gwlaw, a gollwng allan y mwg. Yn nhreigl amser, newidiwyd ei sefyllfa trwy ei symud o'r canol i'r talcen, a gwneid amgylchoedd y rhai mwyaf o honynt yn ddigon eang i gynnwys teulu lliosog, heb i un gyfyngu ar y llall. Dygai twll y simdde ei ran at oleuo aml fwthyn, a thrwy y twll hwnw y tywalltai yr haul ei sirioldeb a'i wenau puraf, ac y gogrynai y cymylau eu gwlaw bendithiol. Hawdd ar noswaith