Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

serenog weled drwyddynt y lleuad a'i phraidd yn gorymdeithio ar hyd rhodfeydd y ffurfafen. Yr oedd rhai o'r tai mor isel fel y gellid cyrhaedd y to â llaw oddiar wyneb y ddaear, ac heb ynddynt ffenestri—cyfryngau goleuni, namyn tyllau yn y muriau, ac arnynt lian, neu gorn, dellt, neu goed—pob drws â thwll ynddo i godi y glicied fel drws beudy, a bron bob amser yn agored oddigerth yn y nos neu yr elid oddi cartref, a phwy ag y mae henaint wedi ei orddiwes nad yw yn gwybod am lên yr hen ddyddiau, ond taflu trem yn ol dros ei ysgwydd, na chofia am arferion yr ieir yn myned i dai ac allan o honynt, heb achos cenad na nacâd, pan y mynent—y gwyddent adegau prydau bwyd i'r dim—yn bynetiwal," ys dywed yr hen air—y prysur helient y briwsion oddiar lloriau, a phan na byddai briwsion y galwent sylw y mamau neu ddeunydd mamau drwy bigo eu ffedogau, gan awgrymu fod yn rhaid i'w cylla wrth fwyd os y disgwylid iddynt hwy fwrw wyau at angenrheidiau gwlad—y goddefid iddynt fod megis cyd—aelodau o'r teulu, a chyfanneddu yn y tai yn mhlith y dodrefn, &c. Nid annhebyg, gallwn dybied, oedd cynllun y tai i hafod un-nos, neu dŷ un-nos—bwthyn a godid ar gytir mewn noswaith, yn yr hwn yr oedd teulu i gysgu ddeugain nos, yr hyn, yn ol hen ddefod, a roddai hawl rydd iddo, yn nghyda rhyw gymmaint o dir o amgylch, yr hwn a nodid âg aradr, fel nas gellid ei dynu i lawr heb dreulio mwy o arian mewn cyfraith nag a dalai y bwthyn a'r tir lle yr adeiladid ef. Pridd oedd defnydd eu muriau trwchus, a phridd neu geryg oedd eu lloriau, ac yn dô ar dai o'r fath, nid oedd dim a darawai yn well na brwyn, rhedyn, neu wellt, heb lawer o ddodrefn ynddynt—dim ond yr hyn oedd wir angenrheidiol, a'r rhai hyny o wneuthuriad garw a chryf. Cyn y flwyddyn 1809, byddai llawer o bobl gyffredin yn cael eu bywoliaeth o'r mynyddau, y rhai oeddynt dra