defnyddiol i'r dyn tlawd a'r tyddynwr. Ynddynt hwy y caffent danwydd, ac hyd-ddynt y magent lawer o'u hanifeiliaid. Byddai nifer mawr, y merched a'r bechgyn yn neillduol, yn myned bron bob bore i'r moelydd a'r mynyddau i dynu grug i'w gwerthu. Tywyrch a mawn, priciau, eithin a drain, yn nghyda bonau preiffion coed, a gleuad, sef tail gwartheg wedi caledu a sychu oedd eu tanwydd cyffredin, y rhai y gofalid am eu casglu a'u darpar yn yr haf ar gyfer y gauaf oer. Ond yn y flwyddyn a nodwyd—1809, dygwyd deddf trwy y Senedd, pryd y rhoddwyd hawl i'r boneddigion i gyssylltu y mynyddoedd a'r cyttiroedd â'u tiriogaethau. Brwyn wedi eu trochi mewn gwêr toddedig, nes ffurfio math o ganwyllau hir-feinion oeddynt yn esgus oleuo y tai yn y nos, y rhai, fynychaf, a elwid yn babwyr. Medd T. Richards:"Pabir, s. pl., rushes, rush candles; pabwyr, the wick of a candle, also the pith of trees." Sonir am y llen-babir, hyny yw, goleu pabwyr. Ceir rhai cyfeiriadau at y frwynen mewn hen ddywediadau, megis,
'Dwy'n hidio dim canwyll frwynen am dano.
Ni rydd fwy o oleu na chanwyll frwynen.
Ac mewn cyssylltiad â'r gangen hon o arferiaeth, gellir nodi siampl o gadw tân parhaol mewn lleoedd neillduol, megis Carn-guwch, Castellmarch, a Phlas yn Mhenllech, yn Lleyn, fel y gallai pawb gael tân ynddynt, os digwyddai i'r eiddynt hwy ddiffoddi. Dyna, medd rhai, yw deilliad yr hen ddywediad "Can boethed a thân Penllech." Cyffelyb hefyd ydoedd Cefn Collwyn a Chefn Cyfannedd yn Eifionydd. Yn nglŷn â hynyna, gellir crybwyll bod yn wybyddus i lawer mai o Feirion y daeth tad y Bardd Du i fyw i'r Bettws Fawr, ac iddo ddyfod a'r tân a gedwid yn ei deulu am dros ddau gant o flynyddau gydag ef mewn kettle. Parhaodd yr un tân yno tros ystod ei oes ef, yn