Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghydag oes ei fab, Robert ab Gwilym Ddu. thrachefn, pan ymadawodd yntau o'r Bettws Fawr i'r Mynachdy Bach, aed a'r un tân parhaol gydag ef yno, lle y parhaodd dros ei oes ef, ac oes ei wraig ar ei ol. Beth bynag am ddiflaniad yr hen arferiad, sicrhai y Bardd ddarfod iddo barhau yn ei deulu ef am dros dri chant o flynyddau. Hwyrach fod a fyno yr achlysur o'i ddechreuad rywbeth â'r Hwyrgloch, sef y gloch wyth o'r nos, ar ganiad yr hon y gorfodid pob un yn amser Gwilym y Goresgynydd i enhuddo ei dân a diffodd ei ganwyll.

Rhyfedd y cyfnewidiad sydd yn ein gwlad nid er gwell yn gyfangwbl. Dichon i hyd y nod ein breintiau beri colledion. Beth arall a briodola am y ffaith fod y crefftau wedi colli o'n mysg, fel nad oes ond ychydig yn awr sydd fedrus yn yr hen gelfau cywrain, defnyddiol, y bu ein tadau yn cael o honynt gymmaint o fudd a hyfrydwch. Medrent hwy gyflawni y rhan fwyaf o'u rheidiau eu hunain. Tuag at barotoi y defnyddiau, yr oedd ganddynt fath o odynau—odyn frâg, odyn gywarch, odyn lin, ac odyn ŷd,—pob un, er yn dra afluniaidd, yn gwneyd y tro, drwy gydol amryw oesau. Yr odyn ŷd, yr hon a elwid yn odyn faes" neu "cylyn" oedd fwyaf annghelfydd ei gwneuthuriad; muriau isel o geryg, to gwellt, a thaflod neu glwyd o bolion a gwrysg ar draws un pen, a gwellt yn daenedig ar hyny i gynnal yr ŷd, a lle i gynneu tân odditanodd. Cyn hyny, pillwvdd a ddefnyddid i grasu llafur yn yr hen simddeiau, gan eu gosod ochr yn ochr fel clwyd uwch ben y tân, ac yna y grawn arnynt i grasu cyn ei yru i'r felin i'w falu. Y merched fyddai yn nithio a phuro ŷd i fod yn gymhwys i'r melinydd, a hwy fyddai yn gogrwn y blawd, wedi y delai o'r felin, er deol yr eisin o hono. Cadwent y blawd ceirch mewn cistau gan ei sathru, hyd oni byddai gan galeted a'r ffordd