fawr, ac weithiau dodent ynddo gig gwartheg, ystlysau a chlustiau moch, er meithrin parhad ei gadwraeth. Yr un symledd hefyd oedd yn nodweddu eu gwisgoedd, y rhai a wneid ganddynt hwy eu hunain, o frethyn glas hanner pàn, neu gochddu'r ddafad, gyda'r droell fawr a'r droell fach, yn nghyda'r cribau, &c. Y merched, bob amser, fyddai yn gorfod golchi, pigo, llifo, cribo y gwlan a'i ddanfon i dŷ'r gwehydd i'w wau, ac wedi hyny i'r pandy i'w ysgwrio, cyn y ceid na gwlanen, na brethyn na gwrthban, i'w gwisgo; a chyn y ceid pâr o hosanau, rhaid oedd iddynt wrth lafur dyfal i gribo, gardio, nyddu, cordeddu, cenglu, dirwyn, a gwau, ac er pobpeth ni byddai gan y boblach gyffredin
"Ond bacsen am y goes, a charai i g'lymu'r glocsen,
Pais o ddu'r ddafad, a chrys o lian tene',
Het o frethyn tew, a chap o lian cartre'."
Prin y gwelid ty heb ynddo droell fach i nyddu llin a chywarch, os y byddai rhyw drefn ar y wraig. Gwragedd fyddai yn nyddu gogyfer a dyfodiad y teilwriaid i'w tai i weithio. Gwragedd cryddion fyddai yn nyddu yr holl edau a ddefnyddid ganddynt hwythau at eu gwaith. Spinster, neu nyddferch y gelwid pob merch heb briodi, am y rheswm y byddai raid, yn ol trefn arferiad yr hen amser, i bob merch cyn y caniateid iddi briodi, nyddu pâr o ddillad gwely. Y call a genfydd y gellid symio i fyny drefn gwneuthuriad pâr o ddillad "brethyn cartref," yn debyg i hyn—y fam a brynodd y gwlan, a'i cribodd, a'i nyddodd, ac a'i llifodd; Huw Ifan y gwehydd a'i gweodd, Sion Robert y Pandy a'i panodd; ac Wmffre Huws y teiliwr a'i gwnïodd. Clos pen-glin oedd clos mwyaf dewisol dynion gwlad, a byddai ambell un lled ysgwar yn gwisgo botasau â thopiau cochion, y rhai a elwid archenau, a daeth y gair diarchenu yn yr hen oesoedd i olygu dadwisgo. Dau can'