mlynedd yn ol, yr oedd gan bobl y sir hon lathen 40 modfedd, ac wrth hono y gwerthent eu brethynau, eu gwlaneni, a'u llian. Manwl iawn oeddynt. hefyd yn newisiad a dosbarthiad gwahanol goed, a'u defnyddiad priodol er gwneuthur o honynt wahanol gelfi at wahanol orchwylion, megis aerwyon, byrddau, clogsiau, cribiniau, cwpanau, egwydydd, llwyau, noeau, picynau, troellau, ystenau, &c. Yma a thraw, ceid llu o wneuthurwyr hetiau, nifer mawr yn ennill eu bywoliaeth wrth wneyd cewyll a basgedi. Yr oeddynt yn enwog am eu medr i blethu gwiail, ac am wneyd coleri brwyn i geffylau, &c.
Un arall o byngciau ffydd yr hen bobl, a dim mwy pleserus ni ddymunent, oedd hwyrol ymddiddanion yr aelwyd, ar yr hon, megis brenines, yr eisteddai gwraig y ty ar ystol drithroed yn gwau hosan—ysgwyd ei thafod i siarad, a gofalu am yr uwd uwchben y tân, gan roddi tro iddo rwan ac yn y man—yr oll mewn cysoniaeth perffaith. Yntau yr hen wr yn nghanol ei wyrion—yn byw yn y gorphenol yn ymladd y brwydrau, ac yn chwareu y triciau direidus y bu yn ymwneyd â hwy yn moreu ei fywyd. Yr oedd yr hen bobl yn dueddol i siarad llawer am danynt eu hunain ac am hen bethau, a phobl ieuaingc am bethau newyddion gwell gan hen bobl hen dŷ, a hen ddodrefn, a hen ddillad, a hen bobpeth, na newydd. Magent a siglent eu plant mewn cewyll—nid addas, yn ol modd na defod, y bernid cyssylltu dodrefnyn o'r fath âg amgylchiadau bywyd helbulus yr iselradd—hawdd deall hyny oddiwrth yr hen bennill canlynol:
"Ni wnaiff Dafydd it' un crud,
Doed iti'r byd a ddelo;
Fe gaed Moses, gŵr oedd well,
Mewn cawell wedi ei guddio."
Eto, er lleied, ac er amled eu plant, dygent hwy fyny yn y fath ymarferiad o ddiwydrwydd, a bod