y genethod yn gallael ennill dimau'r dydd, a chwedi'n ceiniog, wrth wau, ac hyd y gallent, mynych grwydro y bryniau yma a thraw i gasglu yr ychydig dysŵau gwlan gwasgaredig ag fyddai'r defaid yn golli wrth ymrwbio yn y llwyni a'r perthi ar eu llwybrau. Y bechgyn, hwythau, tra yn rhy wan i wneyd gwaith caled oeddynt yn ennill ychydig trwy gadw yr adar o'r ŷd, lloffa, neu hel ceryg. Yr hen drefn ganmoladwy gan famau oedd hyfforddi ac arfer eu genethod ar ddyledswyddau buddiol bywyd, megis pobi, golchi dillad a'u trwsio, glanhau lloriau, coginio'n briodol, gwneyd crysau, gwau hosanau a'u brodio, ac mewn ffermydd magu lloi, pesgi moch, cyweirio gwair a rhwymo ŷd ar brydiau, ac unrhyw orchwyl arall rheidiol er talu ffordd yn ddiofid. Os nad yn ngallu gweddw dlawd i brynu buwch, helpid hi o lwyrfodd calon gan ei chymmydogion; a chaniateid i'r fuwch y rhyddid o bori ochrau cloddiau'r prifffyrdd, tra'i pherchenog yn ei gwylio gerllaw, tan wau hosan i ennill ceiniog mewn ffordd arall.
Yn mysg yr afrifed gymmeriadau syml a digrif, ag oedd yn dirwyn bywyd tawel a defnyddiol, ymlwybrai yr amaethwr diwyd ac yntau y cigydd yn mlaen yn eu taith mewn closau lledr, y rhai yn fynych oeddynt yn ateb y diben o hogfeini, cyfleus iddynt yn achlysurol roddi min ar eu cyllyll. Syml iawn oedd eu celfi amaethyddol, buddai gnocio, oedd ganddynt, gwŷdd pren, cewyll i gario tail, càr llusg, rhawiau o goed at garthu beudai a chutiau moch, &c. Ar geffylau neu ddynion, yn wrywod a benywod, y byddai pob peth yn cael eu cludo ar, i, ac o'r tir—gorfodid, hyd y nod y merched i gludo tail yr anifeiliaid o'r buarth, mewn cewyll ar eu cefnau i'r meusydd. Ond weli hir ddyddiau, trwm lafur a lludded, cafwyd ymwared oddiwrth y fath orchwylion ag oeddynt wedi hanfodi drwy oesoedd laweroedd, yn ngwneuthuriad y gwahanol ysledi a ddyfeisiwyd i lusgo—symud