Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrtaeth a chynnyrch y tir o'r naill fan i'r llall. Er mai ymwelydd digon digroesaw gan lawer ydyw y gauaf, gyda'i dywydd oer a gwlyb, ei ddyddiau byrion, a'i nosweithiau hirion a thywyll; heb unrhyw swyn yn unman i ddenu neb o'u tai, eto, nid mor brudd yw gauaf mewn gwlad—y mae'r oerni fel y gwres yn werthfawr yno, er fod rhyw raddau o'r naill fel y llall yn peri colled weithiau; ond rywfodd, yr oedd mwyniant yn mhob tywydd, ac i bob math o dvwydd ei waith naturiol ei hun; felly yn nglŷn a gorchwylion amaethol megis achos o arfer neu reidrwydd

Y ffarmwr a'r aradr yn y tir,
Y wraig yn godro'r gwartheg ir,
Y ferch yn nyddu gyda'r droell fach,
Y mab yn dyrnu'r gwenith iach
Pawb yn hapus fel y dydd."

Adeg y cynhauaf, yn fwyaf neillduol y cynhauaf yd, ydoedd adeg bwysicaf a phrysuraf y flwyddyn. Fel rheol, byddai gan bob ffermwr ei gae gwenith, ac ni byddai ei fedi yn orchest galed, gan y ceid y gof a'r crydd, y saer, y teiliwr a'r melinydd yn helpu fel costwm gwlad. Gofalid am ddiod neillduol i'r medelwyr—"diod fedi" fel ei gelwid, yr hon oedd amryw raddau yn gryfach na'r cyffredin; ac os byddai yn meddwi yr oedd hyny yn glod i fenywod y ty. Golygfa hardd oedd gweled y "Fedel Fawr, sef llu o fedelwyr—hanner cant, mwy neu lai, o ddynion mewn maes yn medi, a nifer ereill o feibion a merched ar eu hol yn rhwymo'r ysgubau, ac yn eu codi yn 'styciau. Nid yw y peirianau presenol yn gwneyd y gwaith mor daclus a diwastraff, heblaw ein bod yn colli yr ystyr sydd iddo mewn dammegion Ysgrythyrol a chymhariaethau cyffredin. Dilynid y gorchwylion blaenorol â'r ymdrechion i geisio dal y "Gaseg Fedi," fel ei gelwid. Beth bynag am addasrwydd y fath enw, yr hyn olygid wrtho,