Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd mawaid o ŷd—ŷd-wellt wedi ei adael yn fwriadol mewn congl o gae heb ei dori, lle'r amlygid cyd-ymgais egniol i geisio dal—tori i lawr y gaseg drwy daflu—pob un ei gryman ati o fan pennodol —pob un yn ei dro. Wedi yr elai heibio y rhialtwch o'i chwympo, yr oedd yn ofynol ei chuddio, efallai dan wasgod y sawl fyddai wedi ei dal, neu arall os dewisid; ac yna myned am swper, pryd eu cyfarfyddid ar gyffin drws y ty gan liaws o ferched cyforiog o ymryson yn eu croesawu â llestreidiau o ddwfr—"dwr i'r gaseg". Yna, wedi i'r gaseg gael dwr, trwy ei gwlychu cyn medru ei rhoddi ar y bwrdd, yr oedd yn ofynol i'r merched gael swper yn gyntaf, a'r meibion i weini arnynt, ac i olchi'r llestri a chlirio'r bwrdd ar y diwedd. Pe llwyddasid i fwrw'r gaseg i'r bwrdd heb ei gwlychu, hawdd gwybod y rhedasai effaith achos y cyfryw rialtwch i'r gwrthwyneb. Ond wedi cael y llwyth olaf o'r ŷd i'r gadlas y byddai y rhialtwch mawr y penaf, yn cymmeryd lle—y ddefod ddiota, a elwid "Boddi'r Cynhauaf." Byddai y perchen wedi darpar tri neu bedwar galwyn o gwrw ar gyfer y rhai fu'n gweithio'r cynhauaf iddo, a chyfrenid y ddiod rhyngddynt yn nghyda bara a chaws neu fara a chig. Yna, cymmerai dawns le, os byddai rhai allent ddawnsio yn mysg y cynhauafwyr—yn wryw a benyw.

Syml a chryf, yn ddieithriad, oedd eu hymborth—bara haidd, bara ceirch, llaeth, ymenyn, maidd yr afr, maidd yr iar, caws, cig, posel, uwd maidd glas—nid uwd dwfr, brywes, wedi tywallt drosto gawl cig eidion yn llawn brasder, potes neu isgell wedi ei bereiddio â dail, ac ni esgeulusid er dim daflu i'r crochan, yn mysg gwahanol ddarnau ereill o gig, ryw gymmaint o'r cig goreu yn eu golwg—coch yr wden, sef cig sychedig geifr, fel y gwnelid y cawl yn flasus-fwyd perffaith. Ond dydd Mawrth cyntaf o fis Mawrth bob blwyddyn, fyddai yn coroni holl gawl y flwyddyn, pryd y