Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

thrigolion yr oes bresenol. Medrent hwy wneyd "bir criafol" neu ddiod gerddin o ffrwyth y gerddinen; ac hefyd, o dyllu y fedwen ddechreu haf, fel ag i'w sudd redeg o honi, wneyd o'r cyfryw yr hyn a elwid "bir y fedwen." Yr oedd ganddynt, fel yna, eu dewis feddyliau, eu dewis bethau, a'u dewis eiriau cymhwys a pharod at bob amgylchiad ag a ddigwyddai ddyfod i'w rhan, deled y pryd y delai. Pan y byddid yn cyflogi morwyn, gofalid am ofyn iddi,—"A fedri di groes-odro, dwbwl gorddi, dechreu golchi, a diwedd nithio?" Pan yn cyflogi gwas, gofynid:—"A fedri di ladd gwair a llywio dyrnu, batio'n llwyr, a bwyta llymru?"

Nid bychan chwaith oedd eu hadnabyddiaeth ymarferol â natur drwy ymwneyd â hi ac nid darllen am dani mewn llyfrau. Credent fod ganddi well gwersi mewn meddyginiaeth lysieuol nag a roed mewn llyfrau erioed—fod yn mysg amrywiaethau eu hardaloedd ddigon o ddefnyddiau i wrth-weithio yr holl anhwylderau ag oedd eu cyrff yn ddarostyngedig iddynt. Gwyddent enw a rhinweddau pob deilen a llysieuyn oedd yn tyfu ar faes neu glawdd, ar gors neu fynydd, ac adnabyddent amseroedd eu blodau—pa bryd i'w tori a'u cynhauafu, a pha fodd i'w cymhwyso a'u defnyddio at iachau braidd bob clwy neu ddolur—byddai cronglwydydd pawb yn llawn o honynt. Cydnabyddid hefyd yn ewyllysgar mai ffordd fawr iechyd oedd myned y boreu i'r mynydd, a'r prydnawn i'r ffynon; ac fod myned i lan y môr yn adeg trai yn dra llesol tuag at gael ymadawiad ag afiechyd, gan y coelid y byddai i'r môr y pryd hwnw dynu ato yr afiechyd, eithr i'r gwrthwyneb yn adeg llenwi. Yn y dyddiau hyny yr oedd yr eilliwr (barber) yn feddyg at wasanaeth y cyhoedd yn gystal ag yn eilliwr. sef torwr barf neu wallt. Gwelsom, bawb, ei bolyn y tu allan i'w ddrws: ond nid oedd dim a wnelai hwnw a galwedigaeth y gwr fel eilliwr—dangosydd ei drigfan fel meddyg ydoedd