a'r addurniadau hyd-ddo—coch a gwyn, yn arwyddo gollwng gwaed a lliain i rwymo yr archoll, &c.
Eto, fel pethau yn mynu bod, ag oedd yn rhaid gwasgu arnynt gan ynadon a cheisbyliaid y wlad, cyfarfyddid yn achlysurol, yma a thraw, âg ymrafaelion lled annymunol yn mysg personau hoff o ddyferyn difyr, meddwi, cystwyo eu gilydd, &c.; a bernid mai yr unig ddarpariaeth gymhwys gogyfer âg ymddygiadau dosbarth anniddig ac anhydrin o'r fath oedd eu dodi mewn cyffion (stocks)—lle i gaethiwo y traed, ac weithiau y traed a'r dwylaw. Cedwid y stocks yn y mynwentydd, fynychaf, er mwyn chwanegu y gospedigaeth; oblegid yr oedd trigo am noswaith yn mysg y beddau, pan oedd y bobl yn arfer credu mewn ysbrydion, canwyllau cyrff, a drychiolaethau, yn waeth o lawer na deufis o wasanaethu mewn carchardy. Os ceffid rhyw ddyhiryn yn euog o'r trosedd gwarthus o guro ei fam, neu o ryw drosedd a ystyrid o gyfartal bwysigrwydd i hyny, rhwymid un o'i freichiau i fyny yn ddiogel, gan nifer o geisbyliaid, a thywelltid llestraid o ddwfr oer rhwng llawes crys a chroen y condemniedig. nes y byddai yn gwaeddi dan yr iâs, megis un ar ddarfod am dano; neu ynte rhwymid ef draed a dwylaw, a thorid ei farf â hen ellyn rhydlyd, yr hyn bob amser a ystyrid yn gosp hynod o drom.
Fel cyfroddion o'r hen amser, odid na cheir darluniad cyflawnach a chywirach o sefyllfa ein gwlad na'i ffeiriau a'i marchnadoedd. Mae dull y cynnelir ffeiriau a chynulliadau cyffelyb yn myned yn mhell iawn i egluro cymmeriad ei thrigolion. Y lle mwyaf cyfleus o bob man i ymgydnabyddu âg adnoddau y ddynoliaeth ydyw y ffair. I aros adegau pennodol o'r fath, nid oedd gan ffermwyr well cynllun i gael ymgom yn nghylch materion plwyfol ac ansawdd y farchnad, na myned ar foreu Sul braf at y Llan ryw hanner