Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llen gwerin Sir Gaernarfon.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awr cyn adeg dechreu y gwasanaeth, er mwyn cael cyfleusdra, yn y fynwent, i adolygu helynt yr wythnos fyddai newydd fyned heibio. Weithiau, byddai y boneddwr a'r person yn eu mysg, yn eu cysuro am y dyfodol, canys nid oedd y werin, y pryd hyny, yn ddisylw nac yn cael ei hebargofio gan yr hen "Foneddigion Cymreig," y rhai ag yr oedd gwaed pendefigaidd nid yn unig yn rhedeg, ond yn berwi, yn eu gwythenau.

Nodweddiad rhyfedd yn yr hen bobl ydoedd gonestrwydd, geirwiredd, a chywirdeb—dywedent y gwir yn erbyn eu mantais eu hunain; ac yr oeddynt yn gywir a didwyll yn eu masnach. Pan y byddent yn echwyna, ac yn talu yr echwyn adref, nid ysgrifeniadau a stamps ydoedd y tystion, ond boliau y cloddiau, bargodion y tai, a dirgel-fanau. Yr oedd ganddynt gymaint o ymddiried yn eu gilydd, fel nad oedd arnynt angen am drydydd person i fod rhyngddynt, ac yr oedd camgyfrif rhwng dyn a dyn yn beth hollol ddieithr yn y blynyddoedd sydd wedi myned heibio. Fel y dywedai ysbryd Taliesin neu un o'r hen wladwyr enwog gynt wrth ysbryd rhyw Dwrne o'r oesoedd diweddar pan yr hysbysai ysbryd y Twrne i ysbryd Taliesin y ddefod a'r arfer oedd yn ei amser ef yn Nghymru wrth brynu tir, "sef y byddid yn ysgrifenu memrwn mawr cyfled a nithlen i sicrhau y trosglwyddiad neu y gwerthiad." "Ho! Ho!" meddai yr hen ysbryd cyntefig, "ni thalwn i ddim byd yno yrwan; nid oedd yn fy amser i ddim ond codi Coetan Arthur yn goffadwriaeth o'r pryniad, a galw tystion, a dyna y cwbwl ar ben!""

Dyddorol iawn fyddai cael gafael ar ambell hen ymgom difyrus a gymmerodd le rhwng yr hen bobl ar rai o bentanau mawrion yr amaethdai ar lawer noson dywyll y gauaf, yn nghylch hanes y dydd, a pharotoad y dydd canlynol, pryd y byddai i lawer camp wrol gael ei phrofi, llawer cerdd felus ei chanu, llawer chwedl ddigrif ei hadrodd,