am wron mewn rhyfel, am lanc a'i gariad, am gi, a chordd, a chynydd, ac amryw ddiniweidion erai!! na wyddom ni fawr am danynt. Mwynhawyd arnynt lawer o ddifyrwch ysmala ac adeiladol gan rai oeddynt yn byw yn fwy cariadus at eu gilydd nag yr ydys y dyddiau hyn; yn cyd—olchi y defaid, a chyd-gneifio, "cymhortha" y naill y llall hyd y gallent. Ond digon prin yw y cof-arwyddion sydd yn aros o'r hen amseroedd—nid oes ond ychydig o hen balasdai, a'r rhai hyny, gan mwyaf, yn adfeiliedig—hen ddodrefn o ruddin derw pur, ac wedi eu cerfio yn y modd cywreiniaf—hen arfau, hen grythau a thelynau, hen ardiau, llawdroellau a gweyddion; ac mae'r bladur wedi cymmeryd lle'r cryman, a'r dwrn-fedi wedi ei ddiddymu—pobpeth bron wedi darfod, oddieithr fod yn nghadw o oes i oes weddillion o hen hanesion a chaneuon, y rhai a nodweddent ein cenedl cyn ei llwyr ddarostwng, megis,
"Hob y deri dano
Dyna ganu eto."
"Croen yr hen ddafaden
Tu gwrthwyneb allan,
Troed yn ol a throed yn mlaen,
A dau i ben y nenbren."
Cenid y caneuon hyn a'r cyffelyb ar ol helfa lwyddianus, wrth edrych nos gauaf ar yr hob, y ddafad, yr afr, a'r carw yn hongian wrth y nenbren, y gronglwyd a mantell y simdde, ond
"Ein parch a'n bri a chwalwyd
Ar daen i'r pedwar gwynt,
A'r Saeson sy'n rheoli gwlad
Y dewrion Gymry gynt."