PENNOD IV.
CHWEDLAU AC OFERGOELION.
"Gelwais i'm cof, adgof oedd,
Hanesion o hen oesoedd,
Ganfod o rai hergod hyll,
Du annillyn dân ellyll;
Drychiolaeth, ddugaeth ddigorff,
Yng ngwyll yn dwyn canwyll corff."
"Ni cherdd y nos chwerw ddyn iach,
Y baban! rhag ofn bwbach;
E wyl y berth olau ei bon,
Was brwd, yn llawn ysbrydion."
WRTH chwedlau ac ofergoelion yr ydym yn deall y gred, neu'r goel ofer a disail ag sydd gan ddynion am ddylanwadau galluoedd a gwybodaeth, personau dynol ac ysbrydol, yr hon sy seiliedig ar draddodiad yn gyffredin, heb unrhyw ffaith neu dystiolaeth safadwy o'i phlaid, yn groes i'r gwyddorau, ac heb ei chadarnhau gan ddatguddiad. Fel rheol, nid oedd dim yn fwy ffodus i'r hen bobl na'u hanwybodaeth am yr hyn oedd yn eu haros yn y dyfodol. Er hyny, awydd cryf oedd mewn llaweroedd i edrych yn mlaen i lyfr eu tynged; ac ni fynent gael gwaredigaeth oddiwrtho—yr oedd yn hyfrydwch gwirioneddol iddynt hwy fyned drwy y cyflawniadau hyny ag oeddynt berthynol i oraclau yr hen oesoedd, yn gystal a'u hoes hwy eu hunain. Os edrychwn cyn belled a'r unfed ganrif ar bymtheg, a'r ddau ganrif ganlynol, yr oedd y tybiau ofergoelus am reibio, consurio, neu ddewino, mor gyffredin fel y meddyliai llawer nad oeddynt un amser yn ddiogel. Yr oedd llawer o'r dynion mwyaf duwiol eu hymarweddiad, y rhai na